Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i’r Aelod am ei hwyliau da, gan mai hwn fydd ei gyfle olaf yn ystod y tymor hwn i fy holi? A gaf fi ddiolch iddo hefyd am y 12 mis rydym wedi’i gael o holi perfedd a chroesholi a chael fy arteithio, wrth inni anghytuno ar nifer o achlysuron, ond gobeithiaf ein bod wedi gallu cytuno ar nifer o bynciau hefyd? Rwy’n cydnabod ffydd yr Aelod ym mhrosiect Cylchffordd Cymru, ac rwyf hefyd yn cydnabod ei siom nad oedd modd inni ei gefnogi. Byddai bwrw ymlaen ag ef wedi bod yn gwbl anghyfrifol ar sail y risg a gyflwynwyd. Ac mewn perthynas â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, gellir gofyn am gyngor dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddatblygiadau posibl, ond dylid gwneud hynny pan fo’r ddogfennaeth gytundebol ar ffurf sydd bron yn derfynol yn unig, ac yn dilyn penderfyniad mewn egwyddor i gynnig cefnogaeth y Llywodraeth.