<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:44, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnodd eich Llywodraeth am ddyfarniad dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol pan wnaethoch benderfyniad mewn egwyddor ynglŷn â model buddsoddi cydfuddiannol eich Llywodraeth eich hun ym mis Hydref 2016. Yn ychwanegol at hynny, onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, fod darpariaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd ar gyfer cynigion polisi nad ydynt ar gam bron yn derfynol? Mae eu canllawiau dosbarthu, y cyfeirioch atynt yn eich ateb i mi, yn dweud hyn:

gall adrannau llywodraeth ofyn am gyngor ar gynnig ar gam cynnar o’i ddatblygiad. Mewn achosion o’r fath, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi cyngor dros dro ar ddosbarthiad disgwyliedig y cynnig, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.

Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: a ofynnoch chi am gyngor, ac a gawsoch chi gyngor dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â dosbarthiad disgwyliedig cynnig Cylchffordd Cymru? A gadewch i ni fod yn glir: nid wyf yn gofyn a siaradoch chi â hwy ac yna ffurfio eich barn eich hun ar sail yr hyn a ddywedasant, ond a wnaethoch chi ofyn iddynt am eu cyngor dros dro yn y termau a nodir yn eu canllawiau? A chan fod Ysgrifennydd y Cabinet yn fy ngwahodd i ddod â’r craffu i ben ar nodyn mwy cadarnhaol, a gaf fi ofyn un peth olaf iddo? Pe bai prosiect Cylchffordd Cymru yn cael ei achub o’r rwbel gan yr awdurdodau lleol yn y dinas-ranbarth—gyda’r gobaith bellach, wrth gwrs, y gallai Fformiwla 1 fod yn bosibilrwydd hefyd—a phe gofynnid i Lywodraeth Cymru, nid am ei harian, ond am ei bendith, a fyddech yn croesawu’r syniad o achub y prosiect yn y ffordd hon?