<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:48, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, yn ogystal â’r gwaith y bu’n ei arwain mewn perthynas ag asesu’r broses o sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru? Wrth gwrs, rydym eisoes yn defnyddio mathau arloesol o gyllid. Rydym yn gwneud hynny gyda’r gwaith o ddeuoli’r A465, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y comisiwn seilwaith yn digwydd yn gyflym. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar benodi cadeirydd ac aelodau’r comisiwn hwnnw yn gynnar yn yr hydref, ac fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, byddwn yn adolygu gweithgarwch y comisiwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth symbylol wedi dod i law i’w roi ar sail statudol. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd a chyflawniad y comisiwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn.