Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Wel, carwn awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arnom angen dull mwy hirdymor a sefydlog yng Nghymru—yn fwy nag erioed o’r blaen. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros nifer o brosiectau mawr sydd wedi methu. Mae hynny wedi creu dryswch ac ansicrwydd ymhlith darpar fuddsoddwyr sector preifat, ac mae’r methiant a’r broses mewn perthynas â Cylchffordd Cymru—fel y soniodd Adam Price yn gynharach—yn un enghraifft lle y gwelwn lai o hyder, o bosibl, ymysg buddsoddwyr fod Cymru yn agored i fusnes yn wir. A ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cydnabod y dylid dilyn y broses o greu’r comisiwn seilwaith drwy gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod gan y comisiwn y pwysau a’r dylanwad ychwanegol sydd eu hangen arno i gyflawni ei waith?