Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Wel, maddeuwch i mi os wyf yn parhau i ymddangos yn rhwystredig, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae gennyf gysylltiad personol ag etholwr sy’n chwilio am arian ar gyfer prosiect sydd i’w weld yn bodloni holl feini prawf Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn ymwneud â nanotechnoleg arloesol, bydd ei effaith amgylcheddol yn hynod o fuddiol ac mae ganddo botensial enfawr o ran twf, ac eto, er bod rhywfaint o arian wedi’i ddarparu o ganlyniad i’w ymgysylltiad â phrifysgolion Bangor ac Abertawe, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor anodd yw cael gafael ar ragor o gyllid i sicrhau bod y cynnyrch hwn yn dwyn ffrwyth. Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw Cymru am lwyddo gyda’i dyheadau i fod yn arweinydd byd yn y dechnoleg ecogyfeillgar hon, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym brosesau ariannu a fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd.