Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rhaid, yn wir. Mae cyllid ymchwil yn gwbl hanfodol, a dyna pam rydym wedi bod yn glir iawn y dylai Llywodraeth y DU wneud iawn am unrhyw gyllid ymchwil a allai gael ei golli, o bosibl, pan fyddwn yn gadael yr UE. O ran y cwmni penodol y sonia’r Aelod amdano, nid yw’n glir a oes ganddynt reolwr cyfrif yn Busnes Cymru i’w cefnogi, ond byddwn yn fwy na pharod i gysylltu â’r cwmni, os gall yr Aelod ddarparu manylion yn ei gylch, a sicrhau bod Busnes Cymru yno i roi cefnogaeth a chyfeirio’r cwmni at y dull gorau o gyllido eu cynnyrch iddo allu cyrraedd y farchnad.