Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Edrychaf ymlaen at graffu ar ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn y Siambr hon, oherwydd yn sicr, mae arnom angen gweledigaeth drawsffurfiol ar gyfer y Cymoedd. Nid wyf yn siŵr a fyddai parc tirlun y Cymoedd yn ganolbwynt, ond gallai fod yn weledigaeth drawsffurfiol. Mae’n rhaid i ni ddechrau cydnabod gwir botensial yr adnodd hwn. Arferai’r Cymoedd fod ymhlith mannau harddaf Prydain, a byddai teithwyr o bob rhan o’r DU yn dod i baentio lluniau ac ysgrifennu barddoniaeth am y dirwedd wych hon. Dylent ddod eto, a mwy ohonynt. Cymeradwyaf y math o weledigaeth sydd gan eich cyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ar gyfer coedwig y Cymoedd, er enghraifft. Mae potensial mawr yn hynny o beth, ac mae angen inni sicrhau yn awr fod gennym weledigaeth sy’n cyd-fynd â hynny.