Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gwestiwn, a hefyd am gyfeirio, unwaith eto yn y Siambr hon, at bwysigrwydd llesiant i’r economi, a’r cyfraniad y gall y dirwedd naturiol ei wneud i’n llesiant? Bydd fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn gwneud datganiad yn y Siambr ynglŷn â’r syniad o barc y Cymoedd. Rwy’n siŵr ei fod yn syniad y byddwch yn ei groesawu’n fawr iawn, ac rwy’n siŵr y bydd yn cynnwys cryn dipyn o goedwigaeth a gweithgareddau iechyd awyr agored.