Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Gwnaf. Eleni, rydym yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys FFOCWS Cymru, Gŵyl Undod Hijinx, GŵylGrai, The Good Life Experience, a Rali Cymru Prydain Fawr. Rydym yn awyddus i ddenu rhagor o ddigwyddiadau rhyngwladol pwysig i Gymru ac rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gyda phartneriaid yng Ngogledd Cymru i nodi cyfleoedd newydd.