<p>Digwyddiadau Mawr yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:02, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch o glywed am y trafodaethau parhaus i nodi cyfleoedd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gogledd Cymru, dros y misoedd diwethaf yn unig, wedi cael cryn lwyddiant yn cynnal nifer o gyngherddau stadiwm amlwg, o Olly Murs ar y Cae Ras, i Access All Eirias ym Mharc Eirias, sydd bellach yn ddigwyddiad mawr blynyddol, a Llanfest yn eich etholaeth, a oedd yn cynnwys y Manic Street Preachers eleni.

Mae Sir y Fflint hefyd yn gartref i dîm rygbi cynghrair cenedlaethol Cymru, yr unig dîm cenedlaethol sydd wedi’i leoli yng ngogledd Cymru, a thîm a fydd, yn ddiweddarach eleni, yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn Awstralia, Seland Newydd, a Papua Gini Newydd, gyda chefnogaeth llawer o sefydliadau a busnesau lleol yn fy etholaeth, gan gynnwys siwtiau ac esgidiau gan Vaughan Davies o’r Wyddgrug.

Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a chyd-Aelodau eraill yn ymuno â mi i ddymuno pob lwc i dîm rygbi undeb Cymru—tîm rygbi cynghrair Cymru, mae’n ddrwg gennyf, yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd, ond rwyf hefyd yn ymwybodol, wrth siarad ag etholwyr ac eraill, fod cefnogaeth gyhoeddus gynyddol i ni allu cynnal digwyddiadau a thimau mawr yng ngogledd Cymru, ynghyd â’r buddsoddiad mewn seilwaith sydd ei angen i ni allu ehangu ein cynnig.

Felly, a gaf fi annog ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ymhellach yn ein hardal, er mwyn dangos ein gallu gwell i gynnal digwyddiadau, boed hynny mewn lleoliadau eiconig a hanesyddol fel Castell y Fflint, stadia sy’n bodoli eisoes, neu gan edrych un diwrnod efallai ar stadiwm neu leoliad yn y dyfodol yn ardal Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru?