2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0195(EI)
Gwnaf. Eleni, rydym yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys FFOCWS Cymru, Gŵyl Undod Hijinx, GŵylGrai, The Good Life Experience, a Rali Cymru Prydain Fawr. Rydym yn awyddus i ddenu rhagor o ddigwyddiadau rhyngwladol pwysig i Gymru ac rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gyda phartneriaid yng Ngogledd Cymru i nodi cyfleoedd newydd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch o glywed am y trafodaethau parhaus i nodi cyfleoedd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gogledd Cymru, dros y misoedd diwethaf yn unig, wedi cael cryn lwyddiant yn cynnal nifer o gyngherddau stadiwm amlwg, o Olly Murs ar y Cae Ras, i Access All Eirias ym Mharc Eirias, sydd bellach yn ddigwyddiad mawr blynyddol, a Llanfest yn eich etholaeth, a oedd yn cynnwys y Manic Street Preachers eleni.
Mae Sir y Fflint hefyd yn gartref i dîm rygbi cynghrair cenedlaethol Cymru, yr unig dîm cenedlaethol sydd wedi’i leoli yng ngogledd Cymru, a thîm a fydd, yn ddiweddarach eleni, yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn Awstralia, Seland Newydd, a Papua Gini Newydd, gyda chefnogaeth llawer o sefydliadau a busnesau lleol yn fy etholaeth, gan gynnwys siwtiau ac esgidiau gan Vaughan Davies o’r Wyddgrug.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a chyd-Aelodau eraill yn ymuno â mi i ddymuno pob lwc i dîm rygbi undeb Cymru—tîm rygbi cynghrair Cymru, mae’n ddrwg gennyf, yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd, ond rwyf hefyd yn ymwybodol, wrth siarad ag etholwyr ac eraill, fod cefnogaeth gyhoeddus gynyddol i ni allu cynnal digwyddiadau a thimau mawr yng ngogledd Cymru, ynghyd â’r buddsoddiad mewn seilwaith sydd ei angen i ni allu ehangu ein cynnig.
Felly, a gaf fi annog ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ymhellach yn ein hardal, er mwyn dangos ein gallu gwell i gynnal digwyddiadau, boed hynny mewn lleoliadau eiconig a hanesyddol fel Castell y Fflint, stadia sy’n bodoli eisoes, neu gan edrych un diwrnod efallai ar stadiwm neu leoliad yn y dyfodol yn ardal Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Gallwch, ar bob cyfrif. Rwy’n edrych ymlaen at fod yng nghastell y Fflint ddydd Gwener, lle byddwn yn datgelu dyluniad gosodiad celfyddydol o’r radd flaenaf, a fydd nid yn unig yn ysbrydoli pobl y Fflint, ond pobl gogledd Cymru a thu hwnt, rwy’n siŵr. Hoffwn ddymuno’n dda hefyd i dîm Cymru yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd. Rwy’n siŵr y byddant yn perfformio’n wych ac yn destun balchder i ni, a dymunaf bob hwyl i bob un ohonynt.
Yn ddiweddar, bu swyddogion yn gweithio gyda 30 o drefnwyr digwyddiadau yng ngogledd Cymru i wneud gwaith cwmpasu ar gyfleoedd pellach. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario oddeutu £1.7 miliwn ar gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru, ond rydym yn awyddus i adeiladu ar yr enw da sydd gan ogledd Cymru yn fyd-eang erbyn hyn fel un o’r cyrchfannau gorau ar gyfer gwyliau ac ar gyfer gweithgareddau antur yn yr awyr agored. Felly mae’n rhaid inni barhau â’n buddsoddiad yn y cynhyrchion arloesol hyn megis Surf Snowdonia, yn ogystal â’r digwyddiadau mawr arloesol, sy’n gallu denu ymwelwyr newydd yn ogystal â’r ymwelwyr sydd gennym eisoes.
Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol hefyd fod astudiaeth wedi’i chomisiynu ar gyfleusterau chwaraeon. Mae gwaith ar y gweill i asesu pa gyfleusterau sydd eu hangen i allu cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd yr astudiaeth honno’n edrych ar bob rhan o Gymru a bydd yn asesu’r seilwaith presennol yn ogystal â’r galw am stadia chwaraeon newydd. Efallai y byddai o ddiddordeb i’r Aelod hefyd fy mod wedi cyfarfod â Chymdeithas Cwrlio Cymru yn ddiweddar i drafod adeiladu cyfleuster pwrpasol yn yr etholaeth gyfagos, Alun a Glannau Dyfrdwy.
Ar 9 Gorffennaf, cefais y pleser, gyda llawer o bobl eraill, o wylio Bryan Adams ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, a Little Mix y noson cynt wrth gwrs, ac edrychaf ymlaen, fel chithau, o bosibl, at un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn, ar 4 i 6 Awst, sef Gŵyl Blŵs a Soul yr Wyddgrug—hollol ardderchog: cerddoriaeth wych, cwrw lleol gwych, bwyd gwych, a thywydd gwych, hei lwc. Gan gydnabod bod ymchwil ac arfer yn dangos bod digwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd mawr yn ffordd wych o ysgogi’r economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru, pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae, neu ba rôl y gallai ei chwarae, yn helpu i hyrwyddo hynny o fewn y cynnig rhanbarthol ehangach?
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn? Edrychaf ymlaen at ymuno ag ef yng Ngŵyl Blŵs a Soul yr Wyddgrug ym mis Awst. Efallai y gallwn rannu peint yn yr Alehouse neu’r Glasfryn wedi hynny. Rwy’n siŵr y bydd yn ddigwyddiad gwych. Mae gan yr Wyddgrug enw da iawn yn y rhanbarth am gynnal digwyddiadau diwylliannol, bwyd a diod a chwaraeon, ac rwy’n siŵr y bydd yr Ŵyl Blŵs a Soul yn llwyddiant ysgubol. Drwy’r gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth, rydym yn ariannu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhanbarthol a lleol a gynlluniwyd i gyd-fynd â’r blynyddoedd thematig, ac yng ngogledd Cymru eleni, rydym wedi ariannu nifer o ddigwyddiadau i fanteisio ar Flwyddyn y Chwedlau, yn fwyaf nodedig yng Nghonwy, lle y cynhaliwyd gŵyl anhygoel yn ddiweddar, yn seiliedig ar yr hyn a gâi ei alw’n dwrnamaint, a oedd yn cynnwys ymwan. Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, darparwyr twristiaeth, a threfnwyr digwyddiadau drwy Croeso Cymru i hyrwyddo’r holl weithgareddau sy’n digwydd, ond yn enwedig gyda’r rheini sy’n cyd-fynd â’r blynyddoedd thematig. Wrth ddod â’r sector cyfan ynghyd drwy ddefnyddio’r blynyddoedd thematig, rydym wedi sylwi ein bod wedi gallu sicrhau gwerth ychwanegol o ran ein cynnig, a dyna sydd wedi arwain at y cynnydd sylweddol yn y gwariant marchnata a gynhyrchwyd o ganlyniad i’r blynyddoedd thematig, cynnydd y credwn ei fod tua 18 y cant, y llynedd yn unig.
Un o’r canolfannau sydd yn ceisio sefydlu ei hunan, wrth gwrs, fel lle ar gyfer cynnal digwyddiadau gyda rhai o’r bandiau mawr yw’r Cae Ras. Rydw i’n gyson wedi codi yr angen i fuddsoddi yn y Cae Ras gyda chi, achos mae angen iddo fe fod—ac mi ddylai fe fod—yn ganolfan adloniant o bwys, ond hefyd, wrth gwrs, yn stadiwm chwaraeon o ansawdd rhyngwladol. Nawr, rydym ni’n gyson yn clywed y Llywodraeth yma yn gwneud datganiadau rhagweithiol iawn ynglŷn â chanolfannau cynadleddau ac yn y blaen. Pryd a welwn ni’r Llywodraeth yn bod yr un mor rhagweithiol wrth sicrhau buddsoddiad yn y Cae Ras?
A gaf fi ddiolch i Llyr am ei gwestiwn? Gwn ei fod yn rhannu diddordeb brwd iawn yn y pwnc hwn gyda fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, a’r Aelod Seneddol lleol, Ian Lucas. Rwy’n siŵr y byddai pob un ohonoch, fel minnau, yn hoffi gweld buddsoddiad yn y Cae Ras er mwyn iddo ddod yn ganolbwynt mwy gweithredol a bywiog yn y gymuned yn Wrecsam, ac yn wir, yn y rhanbarth ehangach. Yn ddiweddar, rwy’n falch o ddweud bod fy swyddogion wedi cyfarfod ag ymddiriedolaeth bêl-droed Wrecsam. Buont yn trafod y weledigaeth ar gyfer y stadiwm, ond bydd rôl allweddol gan yr awdurdod lleol i’w chwarae yn llunio uwchgynllun ar gyfer y dref er mwyn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn y stadiwm yn y dyfodol yn cydweddu â chyfleusterau eraill a gwasanaethau eraill sy’n cael eu datblygu yn Wrecsam, ond yn fy marn i, nid oes amheuaeth fod y Cae Ras yn haeddu buddsoddiad er mwyn sicrhau y gall barhau i fod yn stadiwm ryngwladol hynaf Prydain, Ewrop, ac o bosibl, y byd. I wneud hynny, bydd angen buddsoddiad pellach, ac ni ddaw hwnnw heb achos busnes cadarn a gweledigaeth glir iawn, a dyna’n union rydym ni, drwy fy swyddogion, yn ceisio’i sicrhau yn awr.