<p>Digwyddiadau Mawr yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:05, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn? Edrychaf ymlaen at ymuno ag ef yng Ngŵyl Blŵs a Soul yr Wyddgrug ym mis Awst. Efallai y gallwn rannu peint yn yr Alehouse neu’r Glasfryn wedi hynny. Rwy’n siŵr y bydd yn ddigwyddiad gwych. Mae gan yr Wyddgrug enw da iawn yn y rhanbarth am gynnal digwyddiadau diwylliannol, bwyd a diod a chwaraeon, ac rwy’n siŵr y bydd yr Ŵyl Blŵs a Soul yn llwyddiant ysgubol. Drwy’r gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth, rydym yn ariannu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhanbarthol a lleol a gynlluniwyd i gyd-fynd â’r blynyddoedd thematig, ac yng ngogledd Cymru eleni, rydym wedi ariannu nifer o ddigwyddiadau i fanteisio ar Flwyddyn y Chwedlau, yn fwyaf nodedig yng Nghonwy, lle y cynhaliwyd gŵyl anhygoel yn ddiweddar, yn seiliedig ar yr hyn a gâi ei alw’n dwrnamaint, a oedd yn cynnwys ymwan. Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, darparwyr twristiaeth, a threfnwyr digwyddiadau drwy Croeso Cymru i hyrwyddo’r holl weithgareddau sy’n digwydd, ond yn enwedig gyda’r rheini sy’n cyd-fynd â’r blynyddoedd thematig. Wrth ddod â’r sector cyfan ynghyd drwy ddefnyddio’r blynyddoedd thematig, rydym wedi sylwi ein bod wedi gallu sicrhau gwerth ychwanegol o ran ein cynnig, a dyna sydd wedi arwain at y cynnydd sylweddol yn y gwariant marchnata a gynhyrchwyd o ganlyniad i’r blynyddoedd thematig, cynnydd y credwn ei fod tua 18 y cant, y llynedd yn unig.