Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Un o’r canolfannau sydd yn ceisio sefydlu ei hunan, wrth gwrs, fel lle ar gyfer cynnal digwyddiadau gyda rhai o’r bandiau mawr yw’r Cae Ras. Rydw i’n gyson wedi codi yr angen i fuddsoddi yn y Cae Ras gyda chi, achos mae angen iddo fe fod—ac mi ddylai fe fod—yn ganolfan adloniant o bwys, ond hefyd, wrth gwrs, yn stadiwm chwaraeon o ansawdd rhyngwladol. Nawr, rydym ni’n gyson yn clywed y Llywodraeth yma yn gwneud datganiadau rhagweithiol iawn ynglŷn â chanolfannau cynadleddau ac yn y blaen. Pryd a welwn ni’r Llywodraeth yn bod yr un mor rhagweithiol wrth sicrhau buddsoddiad yn y Cae Ras?