Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
A gaf fi ddiolch i Llyr am ei gwestiwn? Gwn ei fod yn rhannu diddordeb brwd iawn yn y pwnc hwn gyda fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, a’r Aelod Seneddol lleol, Ian Lucas. Rwy’n siŵr y byddai pob un ohonoch, fel minnau, yn hoffi gweld buddsoddiad yn y Cae Ras er mwyn iddo ddod yn ganolbwynt mwy gweithredol a bywiog yn y gymuned yn Wrecsam, ac yn wir, yn y rhanbarth ehangach. Yn ddiweddar, rwy’n falch o ddweud bod fy swyddogion wedi cyfarfod ag ymddiriedolaeth bêl-droed Wrecsam. Buont yn trafod y weledigaeth ar gyfer y stadiwm, ond bydd rôl allweddol gan yr awdurdod lleol i’w chwarae yn llunio uwchgynllun ar gyfer y dref er mwyn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn y stadiwm yn y dyfodol yn cydweddu â chyfleusterau eraill a gwasanaethau eraill sy’n cael eu datblygu yn Wrecsam, ond yn fy marn i, nid oes amheuaeth fod y Cae Ras yn haeddu buddsoddiad er mwyn sicrhau y gall barhau i fod yn stadiwm ryngwladol hynaf Prydain, Ewrop, ac o bosibl, y byd. I wneud hynny, bydd angen buddsoddiad pellach, ac ni ddaw hwnnw heb achos busnes cadarn a gweledigaeth glir iawn, a dyna’n union rydym ni, drwy fy swyddogion, yn ceisio’i sicrhau yn awr.