Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Iawn. A gaf fi sicrhau’r Aelod fod y fanyleb yn nodi mai’r lleoliad a ffafrir yw Wrecsam neu rywle arall yng ngogledd Cymru? Rwy’n credu bod y ffaith y byddai Gogledd Cymru yn elwa o gael amgueddfa chwaraeon neu amgueddfa bêl-droed—amgueddfa bêl-droed arbenigol—wedi’i chydnabod. Gallai ategu’r amgueddfa bêl-droed ym Manceinion o bosibl. O ystyried ei fod yn destun caffael sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ni allaf ddweud llawer ynglŷn â hyn, ond rydym wedi anrhydeddu’r cytundeb rhyngom, ac rwy’n llawn o gyffro ynglŷn â’r gwaith. Rwy’n credu y gallai gynhyrchu syniad deniadol iawn y byddem yn awyddus i’w gyflawni, ar yr amod fod yr astudiaeth ddichonoldeb yn ei wneud yn un fforddiadwy.