<p>Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:23, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ar thema debyg, mynegwyd pryderon tebyg wrthyf hefyd ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb—y ddogfen gaffael y cyfeiriwch ati—sydd, yn ôl y sôn, yn sôn am amgueddfa chwaraeon yng Nghymru, felly mae eich sylwadau’n tawelu fy meddwl. Ond a ydych yn cytuno ei bod yn bwysig fod yr hyn a ddaw o’r astudiaeth yn sicrhau bod ardal y gogledd-ddwyrain yn cael ei chydnabod am ei rôl arloesol yn hyrwyddo camp sydd wedi datblygu, i lawer o bobl, i fod yn gamp genedlaethol—gallai rhai ddadlau mai rygbi’r undeb yw’r gamp genedlaethol, ond i lawer o bobl eraill, pêl-droed yw hi—gan gydnabod bod y clwb hwn wedi cychwyn ym 1872, mai dyma ble y chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru, lle y cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei ffurfio, a’i fod yn gartref, wrth gwrs, i un o glybiau pêl-droed hynaf y byd?