2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig? OAQ(5)0205(EI)[W]
Gwnaf. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn hwn? Mae’n gyffrous iawn. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymarfer caffael ar GwerthwchiGymru i benodi contractwr i gwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar yr amgueddfa bêl-droed. Bydd yr astudiaeth yn cychwyn tua diwedd mis Awst a bydd wedi’i chwblhau o fewn chwe mis.
Wel, diolch i chi am eich ateb, ac rwy’n amlwg yn croesawu’r ffaith fod yr astudiaeth hon yn cael ei chomisiynu o ganlyniad i gytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wrth gwrs. Ond mae rhai pobl yn gofyn tybed a oes newid bach wedi bod yn y cyfeiriad yma oherwydd yr ymrwymiad gwreiddiol oedd i edrych ar leoli amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, ond mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar amgueddfa chwaraeon fwy cyffredinol, a allai fod yn unrhyw le yng Nghymru o bosibl. Nawr, mae rhai pobl yn poeni y gallai gogledd-ddwyrain Cymru fod ar eu colled.
Iawn. A gaf fi sicrhau’r Aelod fod y fanyleb yn nodi mai’r lleoliad a ffafrir yw Wrecsam neu rywle arall yng ngogledd Cymru? Rwy’n credu bod y ffaith y byddai Gogledd Cymru yn elwa o gael amgueddfa chwaraeon neu amgueddfa bêl-droed—amgueddfa bêl-droed arbenigol—wedi’i chydnabod. Gallai ategu’r amgueddfa bêl-droed ym Manceinion o bosibl. O ystyried ei fod yn destun caffael sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ni allaf ddweud llawer ynglŷn â hyn, ond rydym wedi anrhydeddu’r cytundeb rhyngom, ac rwy’n llawn o gyffro ynglŷn â’r gwaith. Rwy’n credu y gallai gynhyrchu syniad deniadol iawn y byddem yn awyddus i’w gyflawni, ar yr amod fod yr astudiaeth ddichonoldeb yn ei wneud yn un fforddiadwy.
Ar thema debyg, mynegwyd pryderon tebyg wrthyf hefyd ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb—y ddogfen gaffael y cyfeiriwch ati—sydd, yn ôl y sôn, yn sôn am amgueddfa chwaraeon yng Nghymru, felly mae eich sylwadau’n tawelu fy meddwl. Ond a ydych yn cytuno ei bod yn bwysig fod yr hyn a ddaw o’r astudiaeth yn sicrhau bod ardal y gogledd-ddwyrain yn cael ei chydnabod am ei rôl arloesol yn hyrwyddo camp sydd wedi datblygu, i lawer o bobl, i fod yn gamp genedlaethol—gallai rhai ddadlau mai rygbi’r undeb yw’r gamp genedlaethol, ond i lawer o bobl eraill, pêl-droed yw hi—gan gydnabod bod y clwb hwn wedi cychwyn ym 1872, mai dyma ble y chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru, lle y cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei ffurfio, a’i fod yn gartref, wrth gwrs, i un o glybiau pêl-droed hynaf y byd?
Ydw, yn bendant. Mae gan Glwb Pêl-droed Wrecsam hanes anhygoel sy’n haeddu cael ei gydnabod a’i hyrwyddo. Gallaf hefyd sicrhau’r Aelodau, oherwydd clywais ambell un ar feinciau’r gwrthbleidiau yn mynegi pryderon ynglŷn ag a fyddai hon yn amgueddfa genedlaethol i Gymru neu’n amgueddfa bêl-droed yn unig. Byddwn yn ymgysylltu ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn trafodaethau yn rhan o’r astudiaeth ddichonoldeb. O ran Clwb Pêl-droed Wrecsam a phêl-droed yn gyffredinol, mae gan y gogledd-ddwyrain dreftadaeth falch iawn yn y gamp. Yn sicr, byddai llawer ohonom o’r rhan honno o Gymru yn ei hystyried yn un o’r campau cenedlaethol—yr un a chwaraeid yn fwyaf eang gennym yn ôl pob tebyg pan oeddem yn tyfu i fyny—ac rydym yn awyddus i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad mewn cyfleuster fel hwn yn fodd o ysbrydoli pobl yn ogystal â chofio’r gorffennol ac i ysbrydoli pobl i gael llwyddiant mawr yn y byd pêl-droed yn y dyfodol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.