Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Ydw, yn bendant. Mae gan Glwb Pêl-droed Wrecsam hanes anhygoel sy’n haeddu cael ei gydnabod a’i hyrwyddo. Gallaf hefyd sicrhau’r Aelodau, oherwydd clywais ambell un ar feinciau’r gwrthbleidiau yn mynegi pryderon ynglŷn ag a fyddai hon yn amgueddfa genedlaethol i Gymru neu’n amgueddfa bêl-droed yn unig. Byddwn yn ymgysylltu ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn trafodaethau yn rhan o’r astudiaeth ddichonoldeb. O ran Clwb Pêl-droed Wrecsam a phêl-droed yn gyffredinol, mae gan y gogledd-ddwyrain dreftadaeth falch iawn yn y gamp. Yn sicr, byddai llawer ohonom o’r rhan honno o Gymru yn ei hystyried yn un o’r campau cenedlaethol—yr un a chwaraeid yn fwyaf eang gennym yn ôl pob tebyg pan oeddem yn tyfu i fyny—ac rydym yn awyddus i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad mewn cyfleuster fel hwn yn fodd o ysbrydoli pobl yn ogystal â chofio’r gorffennol ac i ysbrydoli pobl i gael llwyddiant mawr yn y byd pêl-droed yn y dyfodol.