<p>Triniaeth Orthopedig yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:25, 19 Gorffennaf 2017

Mae dros 1,200 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y gogledd, ac nid ydy hynny’n dderbyniol. Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno â hynny. Mae papur diweddar gan y bwrdd ar ddatblygu gwasanaethau orthopedig yn pwysleisio’r angen am fwy o lefydd hyfforddi er mwyn darparu’r gweithlu angenrheidiol i greu gwasanaeth cynaliadwy sy’n gallu cyrraedd targedau rhesymol. Onid ydy’r datganiad y gwnaethoch chi ddoe nad oes yna achos dros sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn mynd yn gwbl groes i ysbryd y papur hwnnw ac yn groes i’r hyn a ddywedwyd yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd? Wrth gwrs na all ysgol feddygol gael ei sefydlu dros nos, ond nid ydy eich addewid chi i gael mwy o fyfyrwyr i dreulio mwy o amser yn y gogledd, fel petai hi’n rhyw wlad bellennig, yn amlwg, yn ddigon da. Pryd ydych chi am ddangos rhywfaint o uchelgais ar y mater yma a gosod nod er mwyn inni gael dechrau symud tuag ato fo?