3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio am driniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0201(HWS)[W]
Diolch am y cwestiwn. Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn atgyfeiriadau orthopedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod y pedair blynedd diwethaf ac nid yw’r capasiti wedi gallu ateb y galw. Mae’r bwrdd iechyd lleol yn rhoi ystod o gamau ar waith i ymdopi â’r cynnydd, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau brysbennu amrywiol megis ffisiotherapyddion mewn meddygfeydd meddygon teulu a chlinigau ffordd o fyw a rheoli pwysau, yn unol ag argymhellion y rhaglen gofal wedi’i gynllunio.
Mae dros 1,200 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y gogledd, ac nid ydy hynny’n dderbyniol. Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno â hynny. Mae papur diweddar gan y bwrdd ar ddatblygu gwasanaethau orthopedig yn pwysleisio’r angen am fwy o lefydd hyfforddi er mwyn darparu’r gweithlu angenrheidiol i greu gwasanaeth cynaliadwy sy’n gallu cyrraedd targedau rhesymol. Onid ydy’r datganiad y gwnaethoch chi ddoe nad oes yna achos dros sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn mynd yn gwbl groes i ysbryd y papur hwnnw ac yn groes i’r hyn a ddywedwyd yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd? Wrth gwrs na all ysgol feddygol gael ei sefydlu dros nos, ond nid ydy eich addewid chi i gael mwy o fyfyrwyr i dreulio mwy o amser yn y gogledd, fel petai hi’n rhyw wlad bellennig, yn amlwg, yn ddigon da. Pryd ydych chi am ddangos rhywfaint o uchelgais ar y mater yma a gosod nod er mwyn inni gael dechrau symud tuag ato fo?
Diolch am y cwestiynau dilynol. Rwy’n cytuno bod amseroedd aros hir yn annerbyniol. Mae yna her wirioneddol i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o ran darparu gallu priodol a galw yn ei wasanaethau mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod ei bod yn debygol y bydd mwy o alw wrth i ni symud ymlaen a dyna pam fod yn rhaid iddynt roi ystod o gamau ar waith. Ni chafodd y cynllun orthopedig cychwynnol a oedd ganddynt yn y bwrdd ei gymeradwyo oherwydd bod gwaith pellach i’w wneud arno o hyd.
Mae yna her yma am amrywiaeth o’n gwasanaethau, nid gwasanaethau arbenigol yn unig, ond gwasanaethau dewisol yn ogystal, o ran deall sut rydym yn defnyddio’r gallu sydd gennym yn briodol a sut rydym yn ad-drefnu’r gallu hwnnw i wneud defnydd gwell ohono. Rwy’n credu bod y cyswllt rydych yn ceisio’i wneud rhwng penderfyniad ynglŷn ag ysgol feddygol a’r gallu i recriwtio digon o staff i weithio o fewn model gwahanol—nid wyf yn derbyn bod yna gysylltiad uniongyrchol yn y ffordd rydych yn ceisio’i gyflwyno.
Roedd y penderfyniad a gyhoeddais ddoe yn bodloni’r ymrwymiad a roddais i’r Cynulliad i roi gwybod am hyn cyn y toriad, a chafodd ei wneud yn fwriadol cyn y cwestiynau heddiw er mwyn sicrhau bod yna gyfleoedd i gael y ddadl hon yn y Siambr. Ond nid oedd adroddiad y pwyllgor iechyd yn dweud y dylid cael ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Roedd yn gwneud nifer o bwyntiau rwy’n eu cymryd o ddifrif ynglŷn â bod yr achos wedi’i wneud dros sicrhau bod hyfforddiant yn digwydd ar draws y wlad, a ble y caiff y lleoedd addysg feddygol hynny eu darparu mewn gwirionedd. Mae hynny’n cynnwys sgwrs briodol gyda’r ddwy ysgol feddygol ynglŷn â ble mae eu myfyrwyr yn byw, a ble maent yn cael eu haddysg feddygol, ac fel y dywedais yn fy natganiad ddoe, rwy’n credu bod achos priodol dros sicrhau bod mwy o bobl yn cael addysg feddygol yng ngogledd Cymru.
Felly, mae’n rhaid cael partneriaeth briodol rhwng prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe a’r gwasanaeth iechyd gwladol wrth i ni symud ymlaen er mwyn sicrhau ein bod yn darparu mwy o leoedd ar gyfer addysg feddygol. Mae’n rhaid i hynny ddigwydd heb ystyried unrhyw gynnydd yn y niferoedd, oherwydd pe bawn yn ceisio dweud wrthych chi a phobl eraill na fydd hyn yn digwydd oni bai bod yna gynnydd yn y niferoedd sy’n cael addysg feddygol, byddai’n rhoi’r neges anghywir. Rwy’n credu ei bod yn bwysig, gyda’n cohort presennol, ein bod yn meddwl sut y gallwn roi cyfle i fwy o’r bobl hynny ymgymryd â’u haddysg mewn gwahanol leoliadau. Mae hynny’n cyd-fynd â gwaith sydd eisoes ar y gweill, ac rwy’n ymrwymo i wneud hynny ac i gael sgwrs agored a chall gyda rhanddeiliaid, nid ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yn unig ond yn y Siambr hon a’r tu hwnt er mwyn cyflawni’r uchelgais hwnnw, oherwydd rwy’n credu y bydd yna fwy o obaith wedyn y bydd pobl naill ai’n aros yng ngogledd Cymru neu’n dychwelyd i ogledd Cymru i ymgymryd â chyfnodau pellach o addysg feddygol ac yn aros i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol wedi hynny mewn gwirionedd.
Diolch i’r Aelod o Ynys Môn am godi hyn unwaith eto yn y Siambr. Nawr, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae nifer y cleifion sy’n gorfod aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig a thriniaeth ar gyfer trawma yng ngogledd Cymru bellach yn 3,336, ddwywaith mor hir ag amseroedd aros yn Lloegr. Dyma’r uchaf iddo fod erioed. Yn anecdotaidd, bu’n rhaid i fy etholwr benywaidd 84 oed aros 103 o wythnosau—84 oed—mae hynny’n fwy na 720 diwrnod, bron i ddwy flynedd, am ei llawdriniaeth. A bu’n rhaid i etholwr gwrywaidd aros am dair blynedd am lawdriniaethau clun. Mewn ymateb i fy ngohebiaeth, rydych yn dweud eich bod yn disgwyl y bydd bob claf yn cael eu gweld ar y cyfle cyntaf. Mae hynny’n chwerthinllyd. Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud ynglŷn â’ch methiant i gyflawni ar gyfer y 3,500 o gleifion yng ngogledd Cymru? Eich Llywodraeth chi yw hi—chi sy’n gyfrifol am y briff a’r portffolio iechyd. Ac rwyf wedi gofyn y cwestiwn hwn dro ar ôl tro, ac rydym yn cael atebion niwlog iawn. Dywedwch wrth y bobl yng ngogledd Cymru—y 3,336 sydd wedi bod yn aros dros 36 wythnos, ddwywaith cyhyd ag yn Lloegr—dywedwch wrthynt pryd y byddant yn cael eu llawdriniaethau.
Gallaf sicrhau’r Aelod nad yw hwn yn fater chwerthin ac yn sicr nid yw’n rhywbeth rwy’n ei weld yn ddoniol o gwbl. Yr her bob amser, boed mewn perthynas â mater lle rydym yn deall fod mwy nag un rheswm dros gynnydd yn y galw, ac anallu’r gwasanaeth iechyd i ateb y galw hwnnw—. Mae’r galw am ateb syml, gwasgu botwm ac ymdrin ag ef—mae hynny’n annhebygol o ddigwydd. A byddai’n llawer gwell gennyf fod yn onest ac ymdrin â Janet Finch-Saunders yn dweud fy mod yn niwlog drwy esbonio’r heriau sy’n ein hwynebu yn onest ac yn glir a’r hyn sy’n cael ei wneud yn eu cylch, yn hytrach nag esgus bod yna lifer hud yn y Llywodraeth ar gyfer datrys hyn i gyd. Rwy’n credu’n sicr mai dyna’r peth anghywir i’w wneud.
Ond rwy’n glir—rwy’n disgwyl i bobl gael eu gweld ar y cyfle cyntaf. A dyna pam fy mod yn glir iawn, nid yn unig gyda hi, ond gydag Aelodau eraill yn y Siambr, ar draws y pleidiau eraill hefyd, fy mod yn credu bod amseroedd aros yng ngogledd Cymru yn annerbyniol. Dyna pam rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd wella. Dyna pam rwy’n disgwyl gweld cynllun go iawn ar gyfer gwasanaethau orthopedig yng ngogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn, nid yn unig yn y dyfodol hirdymor, ond yn raddol dros weddill y tymor hwn hefyd.