Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch i’r Aelod o Ynys Môn am godi hyn unwaith eto yn y Siambr. Nawr, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae nifer y cleifion sy’n gorfod aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig a thriniaeth ar gyfer trawma yng ngogledd Cymru bellach yn 3,336, ddwywaith mor hir ag amseroedd aros yn Lloegr. Dyma’r uchaf iddo fod erioed. Yn anecdotaidd, bu’n rhaid i fy etholwr benywaidd 84 oed aros 103 o wythnosau—84 oed—mae hynny’n fwy na 720 diwrnod, bron i ddwy flynedd, am ei llawdriniaeth. A bu’n rhaid i etholwr gwrywaidd aros am dair blynedd am lawdriniaethau clun. Mewn ymateb i fy ngohebiaeth, rydych yn dweud eich bod yn disgwyl y bydd bob claf yn cael eu gweld ar y cyfle cyntaf. Mae hynny’n chwerthinllyd. Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud ynglŷn â’ch methiant i gyflawni ar gyfer y 3,500 o gleifion yng ngogledd Cymru? Eich Llywodraeth chi yw hi—chi sy’n gyfrifol am y briff a’r portffolio iechyd. Ac rwyf wedi gofyn y cwestiwn hwn dro ar ôl tro, ac rydym yn cael atebion niwlog iawn. Dywedwch wrth y bobl yng ngogledd Cymru—y 3,336 sydd wedi bod yn aros dros 36 wythnos, ddwywaith cyhyd ag yn Lloegr—dywedwch wrthynt pryd y byddant yn cael eu llawdriniaethau.