Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Wel, mewn ymateb i’r cwestiwn gan lefarydd UKIP, dywedais unwaith eto fod gan 66 y cant o gleifion canser weithiwr allweddol yn 2013, a, iawn, mae hwnnw wedi codi i 86 y cant yn yr arolwg diweddaraf. Felly, mae cynnydd sylweddol wedi bod ac eto mae mwy i’w wneud, fel y nodais yn flaenorol. Ar hyn o bryd, mae’r wybodaeth am weithwyr allweddol yn cael ei chadw o fewn y system gwybodaeth canser a elwir yn Canisc. Ac fe wyddom fod angen adnewyddu’r system honno, ac felly dylai hynny ei gwneud yn haws wedyn i ddeall amryw o’r meysydd hyn. Yn hytrach na gofyn i fyrddau iechyd ei wneud â llaw neu i ddyfeisio system wahanol i gasglu’r wybodaeth am weithwyr allweddol, hoffwn gael dull priodol o gasglu data a’n galluogi i gwestiynu’r data hwnnw mewn ffordd ystyrlon, nid yn unig mewn perthynas â gweithwyr allweddol, ond mewn nifer o feysydd eraill. Felly mae’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud gan rwydwaith canser Cymru a chan swyddogion ar draws y Llywodraeth. Felly mae hwn yn faes lle rwy’n credu y gallwn fod yn falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud, ond fel y dywedais, ac fel rwy’n ei ddweud yn rheolaidd, rydym yn parhau i gydnabod bod mwy i ni ei wneud.