Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd y grŵp trawsbleidiol ar asbestos gyflwyniad yn ei gyfarfod ym mis Mai ar imiwnotherapi fel triniaeth bosibl ar gyfer mesothelioma, gan gynnwys y treial SKOPOS yn Felindre, i edrych ar sut y gallai brechlyn o’r enw TroVax weithio ochr yn ochr â chemotherapi ar gyfer y rhai sy’n dioddef o fesothelioma plewrol. Mae’r cyllid ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn dod i ben ym mis Awst eleni ac mae pryder y gallai’r ymchwil sy’n cael ei wneud ar imiwnotherapi ym mhrifysgol Caerlŷr, sy’n ddibynnol iawn ar y gwaith treialu a wnaed gan grŵp ymchwil Caerdydd, fod mewn perygl. A ydych yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y gwaith hwn a wneir yn Felindre yn arloesol, a’i fod yn allweddol ar gyfer canfod ffyrdd newydd o drin mesothelioma? Ac a allwch fy sicrhau y byddwch yn edrych ar ba gyllid y gellir ei ddarparu i sicrhau y gall y gwaith hwn barhau ar ôl mis Awst?