Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch i’r Aelod am godi’r mater. Mae mesothelioma yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Heb ddymuno trafod fy rôl flaenorol, roeddwn i a rhywun arall yn y Siambr hon yn gyfreithwyr cyn dod i’r lle hwn, a buom yn gweithio ar nifer o achosion mesothelioma mewn gwirionedd. Roedd cyfarfod ag aelodau o’r teulu a gorfod bod yn dyst i apeliadau yn arbennig o galed ar adegau—profiad anodd iawn, oherwydd mae mesothelioma, hyd yma, bob amser yn angheuol. Mae’r llwybr at y diwedd yn un cyflym a gofidus. Felly mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwaith ymchwil a fyddai, o bosibl, nid yn unig yn ymestyn bywydau, ond yn achub bywydau hefyd. Byddwn yn ddiolchgar, mewn gwirionedd, pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf. Byddwn yn hapus i drafod y mater gyda hi’n fwy manwl—rwy’n deall mai chi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol—er mwyn deall ein sefyllfa ar hyn o bryd a’r dull y byddwn yn ei gymryd gyda rhannau eraill o’r DU i helpu i wella canlyniadau yn y dyfodol.