Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae ymchwil ac arloesedd yn feini prawf allweddol ar gyfer dynodiadau byrddau iechyd prifysgol yng Nghymru ac yn rhan o fframwaith cynllunio GIG Cymru. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo dros £29 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i barhau â’n buddsoddiad mewn ymchwil o ansawdd uchel ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg o fewn y GIG.