Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ganolfan arloesi ymchwil clinigol yn Ysbyty Gwynllyw yn enghraifft wych o fuddsoddiad gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan sy’n caniatáu i ymchwilwyr a staff gymryd rhan mewn ymchwil arloesol mewn meysydd sy’n cynnwys dementia, diabetes a chanser. Y llynedd, cymerodd dros 17,000 o gyfranogwyr ran mewn bron i 480 o astudiaethau ymchwil clinigol, sy’n helpu ymchwilwyr i ddatblygu triniaethau newydd ac yn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y rheini’n nes at adref. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda’r ganolfan, byrddau iechyd ac eraill i sicrhau bod cleifion, gofalwyr a staff yn cael eu cefnogi a’u hannog i gofleidio ymchwil yn llawn a’i wneud yn weithgaredd craidd o fewn y GIG yng Nghymru?