Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn bleser mynd gyda chi i seremoni torri’r dywarchen y ganolfan gofal critigol newydd, a elwir bellach yn ysbyty prifysgol y Faenor, ddydd Llun yng Nghwmbrân. Fe drydarais lun da ohonom, a chi’n palu’r sylfeini â rhaw. Mae’r ysbyty newydd wedi bod yn yr arfaeth ers amser hir, fel y gwyddom, a chi oedd y Gweinidog a gafodd y fraint o dorri’r dywarchen—ni ddaeth sawl un o’ch rhagflaenwyr i ben â gwneud hynny. Ond a fyddech yn cytuno ei fod yn ymwneud â mwy na’r adeilad? Rydym am weld bod yr ysbyty newydd yn datblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth ac arloesedd o safon fyd-eang. Rwy’n gwybod iddi gael ei hystyried ar un adeg fel canolfan bosibl ar gyfer niwrowyddorau, ond rwy’n meddwl bod hynny wedi mynd ar chwâl. Felly, pa waith rydych yn ei wneud, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, i sicrhau, pan fydd yr ysbyty newydd yn agor yn y pen draw—mewn ychydig flynyddoedd, gobeithio—y bydd yn ysbyty o safon fyd-eang, yn rhywbeth y gall pobl de Cymru fod yn wirioneddol falch ohono, ac a fydd yn denu’r staff meddygol gorau a mwyaf disglair?