<p>Ymchwil ac Arloesedd Clinigol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:10, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu y dylai wneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol i ailfodelu gofal iechyd ar draws ardal Gwent a thu hwnt. Mae i fod i agor, fel y gwyddoch, yn ystod gwanwyn 2021, pan ddylai ysbyty prifysgol y Faenor fod ar agor ac yn weithredol. O ran y cwestiwn a ofynnodd Jayne Bryant a’r pwynt a wnewch, mae’n bwysig deall nad yw’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn ymwneud yn unig â darparu gofal iechyd rhagorol—rhaid i ymchwil ac arloesedd ddigwydd ochr yn ochr â hynny a thrwy hynny yn ogystal. Felly, rwy’n disgwyl y bydd ffocws manwl ar ymchwil ac arloesedd pan fydd yr ysbyty’n agor, nid ar adeg yr agoriad yn unig ond drwy gydol y cyfnod o amser, gan fod hynny’n rhan o’r broses o ddenu a chadw staff yno. 

Felly, er enghraifft, mae’r camau a roddwyd ar waith eisoes i gael uned strôc hyperaciwt, a leolir ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Gwent—mae llawer o hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chael model gwasanaeth gwahanol sydd wedi caniatáu iddo ddenu, recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel na fyddai wedi dod fel arall yn rhan o hen fodel o ofal. Dylai’r gwaith ymchwil sydd eisoes ar y gweill yno gael ei wneud yn rhan o fodel newydd o ddarparu gofal iechyd hefyd. Felly, i mi, mae’n rhan allweddol o’r hyn rydym yn buddsoddi ynddo ar gyfer y dyfodol, nid brics a morter yn unig.