Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Yn amlwg, gan ei fod yn destun ymchwiliad troseddol posibl, mae angen i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â’r hyn a ddywedwn yma, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi eisoes fod yr adeilad mewn cyflwr anniogel, a dyna pam y cafodd y perchennog gyfarwyddyd i’w ddymchwel. Ond yn amlwg, y mater sy’n codi yma yw ansawdd yr asesiad risg roedd angen ei gynnal i sicrhau bod yr adeilad wedi’i ddymchwel yn ddiogel. Yn amlwg, dyna un o’r materion y mae angen inni aros am yr ymchwiliad yn ei gylch, ond nid wyf yn credu bod unrhyw reswm i ragdybio bod adeiladau eraill ar fin cwympo am fod adeilad penodol wedi cwympo mewn modd mor drasig. Nid yw un yn dilyn o’r llall.