Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Deallaf o adroddiadau yn y wasg fod arolwg wedi’i gynnal yn yr ardal rai blynyddoedd yn ôl gan Network Rail rwy’n meddwl. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod adrannau cynllunio a rheoliadau adeiladu awdurdodau yn gadarn, ac rwy’n credu bod hwnnw’n waith y gallaf ei wneud gyda fy nghyd-Aelod Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ond fel rwy’n dweud, mae’n fater i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awr, felly nid wyf yn credu ei bod yn briodol gwneud unrhyw sylwadau pellach.