Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Er mwyn ein cynorthwyo gyda’n hymchwiliad clywsom dystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddau achlysur a chan y sector diwydiant coed, a gynrychiolwyd gan Gymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n tystion am ein cynorthwyo yn ein gwaith. Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, gwelsom fod nifer o faterion yn codi mewn perthynas â’r modd yr aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ati i ddyfarnu ei gontractau gwerthu coed. Yn gyntaf, gwelsom fod diffyg craffu ar ran y bwrdd a’r tîm gweithredol ar benderfyniadau pwysig. Cawsom ein synnu’n fawr o glywed bod y penderfyniad i ymrwymo i gontractau gyda gweithredwr y felin goed wedi’i ddirprwyo i un swyddog yn unig yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni chawsom ein hargyhoeddi gan honiadau Cyfoeth Naturiol Cymru na wnaed y penderfyniad gan yr un swyddog ar ei ben ei hun a’i fod wedi’i gefnogi gan achos busnes llawn, yn enwedig o ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain, mewn tystiolaeth ddiweddarach i ni, wedi nodi y gellid bod wedi disgrifio’r achos busnes yn well fel ‘papur opsiynau’, heb ddata a dadansoddiadau hanfodol i sicrhau bod penderfyniadau gwybodus yn cael eu gwneud.
Roeddem yn ei hystyried hi’n eithriadol y byddai contract sylweddol, sy’n werth £39 miliwn, yn cael ei ddyfarnu yn y modd hwn. Roedd y ffeithiau hyn ar eu pen eu hunain yn dangos i ni fod trefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn wan a bod eu prosesau gwneud penderfyniadau ymhell o fod yn gadarn. Canfu ein tystiolaeth hefyd fod methiannau difrifol o ran y modd yr aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ati i sicrhau bod contract mawr yn amodol ar gystadleuaeth neu fel arall yn gallu dangos drwy brofi’r farchnad mai un cyflenwr posibl yn unig a oedd ar gael. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrthym mai un gweithredwr melin goed a oedd yn gallu bodloni eu gofynion gweithredol ar y pryd, ni chlywsom unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r achos hwn, ac yn absenoldeb ymarfer tendro, nid oes sicrwydd pendant mai un gweithredwr yn unig a allai fodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru.
Testun pryder pellach i ni oedd mai un o’r rhesymau allweddol yr ymrwymodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gontract gyda’r gweithredwr felin goed oedd er mwyn creu capasiti ychwanegol yn y diwydiant coed drwy adeiladu llif goed newydd. Fodd bynnag, clywsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod digon o gapasiti wedi’i sicrhau heb adeiladu llif goed newydd, a oedd yn codi cwestiynau ynglŷn â’r penderfyniad i ddyfarnu’r contract i’r gweithredwr yn y lle cyntaf. Yn ddiweddarach clywsom fod y gweithredwr felin goed yn wir wedi torri ei rwymedigaethau cytundebol mewn perthynas ag adeiladu melin lifio ychwanegol. Roeddem yn siomedig dros ben fod contract gwerth £39 miliwn wedi’i ddyfarnu i’r cwmni, ac nad oedd unrhyw gwmni arall wedi gallu cynnig amdano, a’i fod wedi methu cyflawni elfen mor allweddol o’r contract hwnnw. Arweiniodd ein tystiolaeth at y casgliad fod dyfarnu’r contract i weithredwr melin goed unigol heb ymarfer aildendro neu brofi’r farchnad yn llawn yn gamgymeriad difrifol.
Clywsom fod yr archwilydd cyffredinol wedi dod i’r casgliad fod trafodion yn ymwneud â’r cytundebau gwerthu pren yn ‘ddadleuol ac ôl-effeithiol’, ac yn ôl darpariaethau dogfen fframwaith Cyfoeth Naturiol Cymru a darpariaethau cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’, sy’n cynnwys cyfarwyddiadau gan Weinidogion, roedd hi’n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gyfeirio cynigion dadleuol ac ôl-effeithiol at Lywodraeth Cymru. Ni chyfeiriodd Cyfoeth Naturiol Cymru y contractau hyn at Lywodraeth Cymru, ac felly fe weithredodd y tu allan i fframwaith awdurdod y mae’n ddarostyngedig iddo. Roedd yr archwilydd cyffredinol hefyd o’r farn fod cryn ansicrwydd a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus o fewn y broses benderfynu ar gyfer dyfarnu’r contract, ac a oedd dyfarnu’r contractau yn cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol. Yn wyneb yr ansicrwydd hwn, ni allodd yr archwilydd cyffredinol ddatgan yn gadarnhaol fod y trafodion gyda gweithredwr y felin goed yn cydymffurfio â fframwaith yr awdurdod sy’n llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru wybod i ni nad oedd yn credu bod angen cyngor ar gymorth gwladwriaethol ar y pryd ac nad oedd ganddynt unrhyw ymwybyddiaeth o faterion cymorth gwladwriaethol nac wedi gofyn am gyngor ar hynny. Roeddem yn bryderus hefyd i ddarganfod nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o faterion cymorth gwladwriaethol hyd nes y gwelodd ganfyddiadau’r archwilydd cyffredinol. O ystyried bod cymorth gwladwriaethol yn risg a ddeellir yn glir gan y rhai sy’n gyfrifol am wario arian cyhoeddus, neu fe ddylai fod o leiaf, roeddem yn ei hystyried yn annerbyniol nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo bod angen gofyn am gyngor cyfreithiol ar y mater hwn. Yng ngoleuni hyn, argymhellwyd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu ei drefniadau dirprwyo yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gyfraith gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a’r prosesau ar gyfer dyfarnu contractau. Rydym wedi argymell hefyd y dylid rhannu canfyddiadau’r gwerthusiad hwn gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus er mwyn ein galluogi i fonitro gweithrediad a chynnydd yn erbyn newidiadau a nodwyd.
Fel pwyllgor, rydym yn credu y gallai ac y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi sicrhau bod trefniadau llywodraethu da ar waith ar gyfer ei broses gontractio, ac wrth fethu sefydlu trefniadau o’r fath ni allent ddangos sut y gweithredodd yn gyfreithlon nac i ba raddau roedd y contractau’n cynnig gwerth am arian. Fel y cyfryw, rydym wedi argymell y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal gwerthusiad llawn o’i drefniadau llywodraethu sy’n ymwneud â phrosesau contractio, gan osod allan yn glir y gwersi a ddysgwyd gan gyfeirio’n benodol at y contractau gwerthu coed dan sylw.
Nodwn fod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2016-17 wedi’u cyflwyno i’r Cynulliad ddoe ac mae’r archwilydd cyffredinol wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra’r cyfrifon hyn am yr un rheswm ag y rhoddodd farn amodol ar reoleidd-dra cyfrifon 2015-16—dyfarniad cyfres o gontractau gwerthu pren. Mae’r farn ar y datganiadau ariannol yn ddiamod.
Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar y cyfrifon, sydd wedi’i gynnwys yn nhystysgrif archwilio’r cyfrifon, yn nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru, ers dyddiad ei adroddiad ar gyfer 2015-16, wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ei adroddiad, a bydd cynnydd yn ei erbyn yn cael ei oruchwylio gan bwyllgor archwilio a sicrhau risg Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran ei fwrdd. Rydym yn falch o’r camau a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ers cyhoeddi adroddiad yr archwilydd cyffredinol a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn yn llawn y tri argymhelliad a wnaed yn ein hadroddiad. Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu copi o gynllun gweithredu, sy’n dangos sut y maent yn bwriadu symud ymlaen ar bob un o’n hargymhellion, gan gynnwys amserlenni. Nodwn fod y camau hyn i’w cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2017 ac edrychwn ymlaen at ddiweddariad Cyfoeth Naturiol Cymru ar ei gynnydd ym mis Tachwedd 2017.
Yn ganolog i’n holl waith, mae hybu gwelliant wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon a sicrhau gwerth am arian mewn perthynas â gwario cyllid cyhoeddus. Rydym yn gobeithio y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i gyflawni’r gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau llywodraethu da yn y dyfodol, ac fel na chaiff y materion sy’n codi o’r modd yr ymdriniodd â’r contractau gwerthu coed hyn byth mo’u hailadrodd. Hyderwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gweithio gyda phrif weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, pan gaiff ei benodi, er mwyn sicrhau hynny.