Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rydym yn cyflwyno’r ddadl hon heddiw am fod gennym ddiddordeb—fel sydd gan bob Aelod, rwy’n disgwyl—mewn adfywio’r economi wledig. Rydym wedi cysylltu cynnig heddiw â phwnc Brexit, nid i achosi cynnwrf diangen yn y Siambr ar ddiwrnod olaf y tymor, ond yn hytrach i edrych ar y cyfleoedd a allai ddeillio o Brexit. Nawr, rwy’n gwybod ein bod wedi cael rhyw led anghydweld yn y lle hwn dros fanteision ac anfanteision Brexit, ac rydym yn dal i gael rhywfaint o drafodaeth dwymgalon yma ynglŷn â pha ffurf yn union a fydd neu a ddylai fod ar Brexit. Wel, nid wyf am drafod ffurf Brexit yn ormodol. Dadl a gawsom ddoe yw honno, rwy’n teimlo—fel y soniodd Simon Thomas—i ryw raddau, ac un y byddwn yn ei hailddechrau mae’n debyg ar ôl i ni ddychwelyd yma ar ôl y toriad ym mis Medi—a bydd y ddadl yn parhau am beth amser ar ôl hynny yn ôl pob tebyg. Yr hyn y gallwn gytuno arno efallai yw bod rhyw fath o Brexit yn mynd i ddigwydd, felly mae angen inni feddwl am y cyfleoedd y gallai Brexit eu cynnig i ni a sut y gallai rhai o’r cyfleoedd hynny fod o gymorth i’r gymuned wledig.
Yn ychwanegol at gyfleoedd sy’n deillio o Brexit, mae yna hefyd ddulliau sydd eisoes o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Cynulliad y gellir eu defnyddio i helpu’r economi wledig. Hefyd, ceir pwerau sydd wedi llifo i mewn yn ddiweddar, neu ar fin llifo i’r Cynulliad o ganlyniad i gymhwysedd i godi trethi. Nawr, roedd yr holl bleidiau a gâi eu cynrychioli yn y Siambr yn y Pedwerydd Cynulliad eisiau’r pwerau treth, felly nawr yw’r amser i ni feddwl yn adeiladol ynglŷn â sut i’w defnyddio mewn perthynas â’r economi wledig.
Un elfen hanfodol yn hyn i gyd yw tai. Os ydym am gadw pentrefi gwledig ar eu ffurf bresennol, rwy’n credu bod angen inni weithredu’n bendant ac yn gywir yma. Yr hyn nad ydym ei angen yn arbennig yw i bentrefi gwledig golli eu cymeriad drwy ddod yn ddim mwy na threfi noswylio ar gyfer trefi a dinasoedd mwy o faint; nid yw’n ddyfodol rydym eisiau ei hyrwyddo ar eu cyfer. Felly, mae angen i ni fod yn wyliadwrus ynglŷn â datblygiadau tai mawr anghydnaws, ac ynglŷn ag adeiladu ar y llain las. Wrth gwrs, mae angen tai gwledig, ond mae angen eu datblygu mewn modd cydymdeimladol ac yn unol â dymuniad y boblogaeth leol. Gyda datblygiadau mawr, credwn y dylid ymgynghori’n ystyrlon â phobl leol. Os ceir datblygiad dadleuol, yna dylai fod lle i gynnal refferendwm lleol sy’n rhwymo’n gyfreithiol. Mae hyn yn golygu, os ceir digon o lofnodwyr, y gallai cymuned gael pleidlais ar ddatblygiad, a byddai’r awdurdod cynllunio perthnasol wedi’i rwymo’n gyfreithiol i nodi’r canlyniad a gweithredu yn unol â hynny. Gyda refferenda o’r fath sy’n rhwymo’n gyfreithiol byddai rhyw fath o ffurf ystyrlon i’r cysyniad o leoliaeth. Dylai fod mwy o rôl hefyd i gynghorau tref a chymuned yn y broses gynllunio.
Ochr arall y geiniog yw bod angen inni ysgogi adeiladu hefyd os oes cydsyniad lleol i’r cynllun adeiladu. Ac rydym yn gwybod bod mesurau newydd, dulliau newydd, ar gael i’r Cynulliad ym maes adeiladu tai. Un o’r problemau sy’n cyfyngu ar adeiladu tai yw’r broblem o fancio tir. Dyma’r broses lle mae llond llaw o gwmnïau datblygu eiddo cenedlaethol mawr yn crynhoi asedau tir, yn cael caniatâd cynllunio i adeiladu tai, ac yna’n gwneud dim ond eistedd arnynt, yn hytrach nag adeiladu unrhyw beth mewn gwirionedd. Ond gyda’r pwerau treth newydd ar gael, gellir mynd i’r afael â bancio tir drwy gyflwyno cyfres o daliadau: system o dreth tir ar dir lle mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi, ond lle nad oes unrhyw dai wedi cael eu hadeiladu. Gallai hyn ddechrau ar ôl tair blynedd dyweder, a chodi wedyn flwyddyn ar ôl blwyddyn hyd nes y bydd y rhaw’n torri’n dywarchen gyntaf. Nawr, mae’r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, eisoes wedi awgrymu gweithredu yn y cyfeiriad hwn, ac rydym ni yn UKIP yn teimlo y dylem symud i’r cyfeiriad hwn a dylai Llywodraeth Cymru gael y grym i ddatblygu hyn. Nawr, yn yr achos hwn, daw’r pwerau i’r Cynulliad o San Steffan ar ffurf cymhwysedd i godi trethi. Gall pwerau eraill gael eu datganoli o ganlyniad i Brexit.
Er enghraifft, ar ôl i ni ddod allan o’r UE, ni fyddwn yn cael ein llywodraethu gan reolau caffael yr UE mwyach. Mae caffael yn arf arall y gellir ei ddefnyddio i yrru datblygiad economaidd. Rhaid i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru gael eu hannog, yn ôl statud os oes angen, i ddyfarnu contractau yn y sector cyhoeddus i gwmnïau lleol. Gallai hyn alw am wneud y broses dendro’n haws. Mae angen i ni edrych ar y rheolau a’r rheoliadau ar ôl Brexit, a sicrhau bod rheoliadau amherthnasol yn cael eu diddymu fel bod cwmnïau llai o faint, sy’n tueddu i amlhau mewn ardaloedd gwledig, yn cael caniatâd i dendro am gontractau. Efallai y bydd yn rhaid i ni gyflwyno cymalau fel bod nifer penodol o gontractau sector cyhoeddus yn cael eu dyrannu i gwmnïau o Gymru, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Mae hwn yn arf arall y gellid ei ddefnyddio i helpu’r economi wledig.
Yn y stryd fawr wledig mae angen i ni annog cysyniadau megis cydleoli, er mwyn i siopau, tafarndai, a swyddfeydd post o bosibl, gydfodoli yn yr un lle. Hefyd, gallwn ddefnyddio pwerau dros ardrethi busnes i helpu busnesau gwledig.
Gallai polisïau pysgodfeydd ôl-Brexit helpu i adfywio porthladdoedd pysgota a arferai fod yn ffyniannus yng Nghymru. Rydym wedi crybwyll hynny eisoes, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy’n galw am ddadl ynddo’i hun pan ddown yn ôl fis Medi nesaf, ond yn sicr mae yna gyfleoedd yno.
Ffactor hanfodol arall yw argaeledd band eang mewn ardaloedd gwledig. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei thargedau yn gyson mewn perthynas â’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig, felly mae angen gwneud mwy yn hynny o beth.