Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 19 Medi 2017.
Mi hoffwn innau groesawu cyhoeddi’r cynllun gweithredu. Mi allem ni gyd, rwy’n siŵr, groesawu unrhyw ymrwymiad i barhau i geisio gostwng cyfraddau ysmygu ac yn arbennig, rwy’n meddwl, y camau i geisio atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf, achos rwy’n grediniol mai dyna’r elfen fwyaf arwyddocaol a mwyaf allweddol yn y frwydr i ostwng cyfraddau ysmygu yn yr hirdymor.
Os gallaf edrych yn benodol ar ambell bwynt sy’n codi yng ngham gweithredu 2 yn y strategaeth newydd—mae’n sôn am edrych ar ddefnyddio technoleg, er enghraifft, cyfryngau cymdeithasol, mewn camau i atal ysmygu ymhlith yr ifanc yn benodol. Hefyd, mae’n sôn am edrych ar dystiolaeth ryngwladol ynglŷn â thargedu’r ifanc a phobl sydd mewn perig o ddechrau ysmygu. Yn y ddwy enghraifft hynny mae sôn am ddechrau’r gwaith yma erbyn mis Mawrth, mis Ebrill, y flwyddyn nesaf. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno â mi nad oes yna amser i oedi yn fan hyn ac y dylai’r mathau yna o gamau, siawns, eisoes fod ar waith?
O ran y brand newydd, ‘Dewiswch fod yn ddi-fwg’, mi edrychaf ymlaen at weld a ydy hwnnw’n taro deuddeg efo pobl ac, wrth gwrs, rydym yn gobeithio y bydd o. Ond tybed faint o arian—. A oes yna fanylion ynglŷn â’r cyllid a fydd yn mynd i mewn i farchnata’r cynllun yna a’r camau newydd sy’n rhan o’r strategaeth yma?
Mi oeddwn innau hefyd yn eiddgar i wneud y pwynt ynglŷn ag ysmygu a chyfraddau ysmygu ymhlith y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod 36 y cant o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ysmygu, o’i gymharu ag 19 y cant o’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i ysmygu yn gallu bod yn rhan effeithiol o driniaeth iechyd meddwl. Felly, er bod y Gweinidog wedi gwneud sylwadau ynglŷn â hyn yn barod, mi fyddwn yn annog y Llywodraeth i wneud mwy o waith yn y maes yma.
Yn olaf, targedau. Rwy’n croesawu’r sylwadau wnaeth y Gweinidog wrth ymateb i gwestiynau Angela Burns ynglŷn â’i pharodrwydd i edrych ar addasu a chryfhau targedau hirdymor ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mi grybwyllwyd yn benodol y targed yma sydd gan Cancer Research UK o anelu am 5 y cant o’r boblogaeth erbyn y flwyddyn 2035. A ydy’r Gweinidog, tybed, wedi ystyried yn barod, er y bydd hi’n edrych ymhellach ar hyn, fod hwnnw yn darged y gallai hi fod â diddordeb yn ei fabwysiadu, achos mae o’n darged y mae Cancer Research UK yn sicr yn gobeithio y gallwn ni ei ystyried fel un realistig, er yn uchelgeisiol? A’r targed arall yna wedyn o drin 5 y cant neu gynnig gwasanaethau i 5 y cant o’r rheini sydd yn smygu, a ninnau yn cyrraedd llai na 3 y cant ar hyn o bryd—erbyn pa bryd mae’r Llywodraeth yn hyderus y byddwch chi’n gallu taro y 5 y cant yna?