Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy’n croesawu’r cynllun cyflawni. Ers gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu, mae'n newyddion da bod ysmygu yn y cartref wedi gostwng 80 y cant i 46 y cant. Dywed ASH Cymru fod hyn yn awgrymu bod gwell dealltwriaeth o beryglon mwg ail-law, yn enwedig o amgylch plant a theuluoedd. Felly, er ein bod yn edrych ar hyn fel gostyngiad o 34 y cant mewn ysmygu yn y cartref, rhaid inni gofio bod y bobl eraill yn y cartref yn elwa ar y ffaith nad ydynt yn dioddef effeithiau'r mwg ail-law hwn hefyd.
Fel y crybwyllwyd, ysmygu yw un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd, ac mae cyfraddau ysmygu mewn ardaloedd tlotach fwy na dwywaith yn uwch na’r rhai mewn ardaloedd cyfoethog. Felly, tybed sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r agwedd anghydraddoldeb.
Wrth ymweld ag ysbytai yn fy rhanbarth, cefais fy syfrdanu gan nifer y bobl y tu allan i'r ysbyty, ond yn y man cyhoeddus, sy'n dal i ysmygu. Felly, rwy’n falch bod y datganiad yn cydnabod hyn ac mae'n bwriadu ymestyn y gwaharddiad i gynnwys meysydd fel y rhain. Ymddengys na fyddai'r holl wybodaeth yn y byd yn helpu rhai pobl i guro'r ddibyniaeth hon, ac nid wyf yn beirniadu, ond yn ceisio deall, pan fo pobl yn dod yn gaeth i sigaréts, mae'n rhaid bod yn ofnadwy os na allwch guro'r ddibyniaeth. Er eu bod yn ymwybodol o beryglon ysmygu, a’i fod yn cyfrannu at 5,450 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru, mae pobl yn dal i ysmygu. Felly, mae hyn yn destun pryder ac mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i fynd i'r afael â hyn a gwneud mwy i helpu pobl.
Fy mhryder i yw'r ysmygu ail-law sy'n gysylltiedig â babanod a phlant. Rwyf wedi gwylio rhaglenni ar y teledu ynglŷn â sut y mae babi yn y groth yn ymateb i ysmygu, ac mae hyn yn peri pryder mawr i’w wylio, ond hoffwn i, mewn ffordd, ei weld yn cael ei hysbysebu mwy. Mae rhieni sy'n ysmygu yn debygol iawn o ddylanwadu ar y plant sy'n byw gyda nhw, felly mae'n syfrdanol i ddarllen bod 64 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd yn dweud eu bod yn dioddef effeithiau fwg ail-law. Felly, tybed a ydych yn cytuno â mi fod angen ystyried y maes hwn.
Gan fod 19 y cant o oedolion Cymru yn dal i ysmygu, pa ymchwil a gwybodaeth sydd eisoes gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i leihau'r nifer hwn? Hefyd, mae ASH wedi datgan bod y gwaharddiad yn llwyddiannus 100 y cant mewn carchardai, ond rwy’n deall, ers y gwaharddiad hwn, bod nifer y digwyddiadau hunan-niweidio yn y carchar wedi cynyddu ymhlith carcharorion, fel y mae trais, a hynny carcharor ar garcharor a charcharor ar staff. A yw hyn oherwydd rhwystredigaeth—dyfeisio sigarét drwy geisio ysmygu bagiau te er mwyn cyflenwi lle’r sigarét nad yw’n gallu mynd i mewn? Felly, mae gan y bobl hyn broblemau iechyd meddwl, ac, ynghyd â chael eu cloi, mae hyn yn ychwanegu straen. Felly, tybed a gawn ofyn i rywfaint o ymchwil gael ei wneud ynghylch y datganiad uchod—bod ASH yn nodi cydymffurfiad o 100 y cant i hyn—ac a allwn ni ail-werthuso, os oes angen, yr hawliadau am lwyddiant ynglŷn â'r carchardai hyn.
Mae'n hanfodol bod gwahardd ysmygu yn agos at feysydd chwarae ac ardaloedd plant, ac rwy'n falch o weld bod y cynllun yn gwneud darpariaethau i atal hyn. Rwy'n falch bod y datganiad yn cydnabod y niwed y mae ysmygu ail-law wedi'i achosi a'r cynlluniau i ddelio ag ef. Hefyd, hoffwn ofyn am y cydweithrediad â gwasanaethau eraill, megis Cancer Research, ASH a meysydd eraill. Diolch yn fawr iawn.