Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n amlwg imi fod nifer sylweddol o bobl, gyda llawer ohonynt yn bobl hŷn ac agored i niwed fel y gwyddoch, yn parhau i wynebu costau ariannol o ganlyniad i gynlluniau waliau ceudod anaddas neu ddiffygiol. Yn wir, rwy’n ddiolchgar i nifer o gyd-Aelodau Cynulliad sydd wedi rhannu profiadau tebyg o’u hetholaethau gyda mi. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â rhagor o’m hetholwyr sy’n wynebu’r union broblemau hyn. Rwy’n croesawu’r diweddariad ers eich datganiad ysgrifenedig ym mis Mehefin, ond a gaf i ofyn: beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf gyda’r broses beilot newydd o dan Arbed sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gaffael arolygon annibynnol tŷ cyfan o eiddo cyn gwerthuso a dyfarnu arian i gynlluniau posibl? Ac a ydych yn cytuno bod y broblem hon yn galw am ein sylw parhaus, fel y gallwn atal problemau tebyg yn y dyfodol, ond hefyd, ac yn bwysicach o bosibl, er mwyn sicrhau cyfiawnder ac iawndal i’r rhai sydd wedi dioddef hyd yma?