Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 20 Medi 2017.
Yn sicr, mae’r broblem yn cael fy sylw parhaus. Credaf fy mod yn cael o leiaf un eitem o ohebiaeth yr wythnos ar y mater hwn. Fe fydd yr Aelod yn gwybod bod bron yr holl waith gosod waliau ceudod yn cael ei wneud gan osodwyr o dan gynlluniau hunanardystio personau cymwys y rheoliadau adeiladu. Fel y dywedais, byddaf mewn sefyllfa, gobeithio, i wneud y cyhoeddiad hwnnw ar ôl 1 Hydref. Gwn fod cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno drwy gynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni Llywodraeth y DU. O ran Arbed, rydym newydd anfon llythyrau canlyniad at awdurdodau lleol ar ôl ystyried yr arolygon eiddo annibynnol a oedd wedi eu cyflawni eisoes. Mae hynny wedyn yn galluogi awdurdodau lleol llwyddiannus i fwrw ymlaen â’r broses o brisio a llunio cynlluniau. Credaf y bydd hynny’n cryfhau ansawdd y cynlluniau hynny ymhellach ac yn cyfyngu ymhellach ar broblemau yn y dyfodol. Ond rydych yn llygad eich lle—rydym yn awyddus i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol, ond gwyddom fod gennym rai problemau y mae angen i ni barhau i sicrhau eu bod yn cael cyfiawnder.