Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 20 Medi 2017.
Yn 2015, dywedodd y Sefydliad Ymchwil Adeiladu fod angen mwy o ddata arnom ynglŷn â hyn yng Nghymru. Mae angen astudiaeth genedlaethol i weld maint y broblem. Credaf mai’r broblem yn hyn o beth yw’r eiddo presennol sydd wedi mynd drwy’r broses hon, ac mae wedi bod yn ddiffygiol. Gan fod hyn yn ganolog i gymaint o’n strategaeth adnewyddu, lleihau ynni, Cartrefi Clyd—mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gyfarwydd â hyd a lled yr her hon ac yn ei datrys cyn gynted â phosibl, a sicrhau, wrth gwrs, fod y rhai sy’n gyfrifol yn cyflawni eu rhwymedigaethau.