3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 20 Medi 2017.
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch â'r effaith y caiff y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp AG ar y sector dur yng Nghymru? (TAQ0044)
Rwyf fi a’r Prif Weinidog wedi siarad gyda Bimlendra Jha, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, am y cyhoeddiad ar y fenter ar y cyd.
Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—cryno iawn a byr iawn.
Nawr, mae’r cyhoeddiad hwnnw ar fenter ar y cyd yn amlwg wedi bod yn rhywbeth yn y cefndir, ac mae llawer o bryderon wedi cael eu mynegi gan weithwyr dur yn fy etholaeth i a ledled Cymru ynglŷn â dyfodol cynhyrchu dur yma yng Nghymru. Gwta 18 mis yn ôl, gwelsom fygythiad i gau safle Port Talbot. Y tu hwnt i hynny, gwelsom fygythiad i werthu’r diwydiant dur yn ne Cymru, dim ond i ddarganfod eu bod, yn y pen draw, yn cydnabod bod y cynllun, neu’r ‘bont’, fel y’i gelwid, yn gweithio mewn gwirionedd, ac felly’n gwneud y diwydiant dur yn hyfyw, a chafodd pob un o’r rheini eu diddymu.
Ond unwaith eto, rydym yn wynebu peth ansicrwydd oherwydd y cyhoeddiad hwn. Rwy’n deall bod yr undebau wedi rhoi croeso gofalus, ond mae yna rai problemau, yn enwedig yn y manylion, ac mae angen i ni roi hyder i’r gweithwyr dur yng Nghymru sydd wedi ymrwymo ac ymroi i wella’r broses o gynhyrchu dur yma yng Nghymru. Felly, yn hynny o beth, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda Tata i sicrhau y bydd y cytundeb i fuddsoddi £1 biliwn mewn cynhyrchu dur yn cael ei anrhydeddu gan fenter newydd, oherwydd yn ôl y gyfraith mae endid gwahanol ar waith bellach, neu fe fydd endid gwahanol ar waith, yn enwedig gan fod hynny ar draul pensiynau i lawer o weithwyr?
Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr uwch ganolfan ymchwil dur arfaethedig a oedd yn cael ei thrafod yn parhau ym Mhrifysgol Abertawe, ac nid, o bosibl, yn cael ei dosrannu ar gyfer ymchwil mewn rhannau eraill o’r UE? Pa sicrwydd a gawsoch ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau nad yw gwaith Port Talbot yn un tymor byr, ond ei fod mewn gwirionedd yn parhau yn y tymor hir, a bod y swyddi yn rhai hirdymor? A pha gamau rydych yn eu cymryd gyda Llywodraeth y DU sydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, wedi bod yn aneffeithiol iawn hyd heddiw—’diwerth’ yw fy ngair i—oherwydd yn hanesyddol nid ydynt wedi gwneud dim? Ond mae angen i chi weithio gyda hwy yn awr i wneud yn siŵr eu bod yn cefnogi cynhyrchu dur yma yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn ac am y diddordeb y mae nifer o’r Aelodau wedi’i ddangos yn y pwnc hwn, nid yn unig heddiw, ond dros fisoedd lawer, a blynyddoedd yn wir? Hoffwn ddechrau wrth ymateb i gwestiynau Dai Rees drwy gofnodi fy ngwerthfawrogiad i’r gweithwyr ffyddlon, ymroddedig a medrus a gyflogir gan Tata ledled Cymru. Maent wedi dangos amynedd a ffyddlondeb anhygoel. Maent wedi aberthu o ran eu pensiwn i gyrraedd y sefyllfa rydym ynddi heddiw, ac maent yn haeddu parch a chlod cyfatebol gan Tata fel cyflogwr wrth iddynt symud tuag at y fenter ar y cyd.
Fel y dywedais, rwyf eisoes wedi siarad â Phrif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, ac rwyf wedi gofyn am sicrwydd ac wedi’i gael. Buaswn yn cytuno gyda’r undebau llafur yn y datganiad a ryddhawyd ganddynt fod y cyhoeddiad heddiw i’w groesawu’n ofalus. Mae’n paratoi’r ffordd i ffurfio’r busnes dur mwyaf ond un yn Ewrop, a allai ddod â llawer o fanteision i’r DU—manteision a allai ac a ddylai gydweddu â’r dull bargen sector sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o strategaeth ddiwydiannol y DU. Yr wythnos diwethaf, neu’r mis diwethaf, cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i drafod, ymysg pethau eraill, y diwydiant dur a’r fargen sector a sut oedd angen inni sicrhau bod datblygiad ac arloesedd ymchwil yn ganolog i ddull bargen sector ar gyfer dur. Rwyf wedi cael sicrwydd ynghylch yr asedau sy’n bodoli ar draws Cymru a’r DU—na fydd unrhyw safleoedd yn cau; fod y cyhoeddiad yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chystadleuol i’r diwydiant dur yng Nghymru. Ond byddaf yn gofyn am drafodaethau pellach, nid yn unig gyda Tata ond gyda ThyssenKrupp hefyd i sicrhau bod buddiannau gweithwyr Cymru yn ganolog i’r fenter ar y cyd.
Gallaf sicrhau’r Aelod y bydd ein buddsoddiad, a’n diddordeb yn yr uwch ganolfan arloesi dur yn parhau, a byddwn yn bwrw ymlaen â’r prosiect hwnnw. Rwy’n credu mai un o gryfderau’r sylfaen ymchwil a datblygu yng ngwaith Tata Steel Cymru yw ei fod wedi’i gysylltu mor gadarn â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ei fod yn rhan annatod o ystâd y sefydliad addysg uwch, ac felly byddwn yn bwrw ymlaen â’r prosiect hwnnw.
Y peth pwysicaf o ran cynhyrchu dur yn y DU yw ei fod yn gystadleuol er mwyn iddo allu bod yn gynaliadwy. Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i nodi’r rôl y gall Llywodraeth y DU ei chwarae yn hyn o beth, yn benodol mewn perthynas ag ynni a’r gwahaniaeth rhwng prisiau ynni yma ac mewn mannau eraill. Mae’n dal i fod angen camau gweithredu yn hyn o beth. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei godi ar lefel swyddogol ac ar lefel wleidyddol gyda Llywodraeth y DU, ac rydym yn dal i ddisgwyl ymateb boddhaol. Bydd y trafodaethau’n parhau ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd y trafodaethau’n parhau yng nghyngor dur y DU, gan gynnwys Tata Steel yn ogystal â gweithgynhyrchwyr dur eraill yng Nghymru, i bwyso am fargen deg ar ynni.
Mae fy swyddogion wedi bod yn ymwneud hefyd â swyddogion yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol dros y dyddiau diwethaf mewn perthynas â’r mater hwn. Byddwn yn gweithio ar y cyd er budd gweithfeydd dur y DU i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed ar gyfer y gweithfeydd dur yn cael eu hanrhydeddu. Wrth gwrs, mae’r prif ymrwymiad yn ymwneud â’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot a’r addewid o £1 biliwn, y disgwyliwn iddo gael ei anrhydeddu. Ond mae amodau eraill a fydd yn cael eu hanrhydeddu ni waeth beth yw manylion y fenter ar y cyd, amodau sy’n ymwneud â’r £13 miliwn a ryddhawyd gennym i Tata Steel UK. Mae’r amodau hynny’n cynnwys amodau ar isafswm cyfnod cyflogaeth o bum mlynedd ar gyfer gweithwyr, a byddant yn cael eu hanrhydeddu gan y fenter ar y cyd.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn arbennig i chi am yr ateb olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’r amod pum mlynedd, wrth gwrs, yn rhywbeth y siaradoch lawer amdano pan oedd posibilrwydd y byddai’r safle’n cael ei werthu. O ran ymrwymiad pum mlynedd, fodd bynnag, a ydych wedi cael unrhyw synnwyr eto ynglŷn â pha fath o swyddi y bydd y fenter ar y cyd yn barod i ymrwymo iddynt, a pha bryd y byddwch yn cael gwybod pa fathau o swyddi sy’n debygol o gael eu heffeithio? Oherwydd y cynaliadwyedd hirdymor yw’r mater allweddol yma, yn hytrach nag amodoldeb pum mlynedd syml. Roedd un i fod i arwain at y llall. Y mathau o swyddi a fydd yn cael eu colli ym Mhort Talbot—mae angen i ni wybod pa fathau o swyddi ydynt er mwyn i ni allu craffu ymhellach ar unrhyw gynlluniau a allai fod ganddynt ar hynny.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi addo ailhyfforddi pobl sydd eisoes wedi colli eu swyddi. Rwy’n dychmygu efallai y byddwch eisiau dweud rhywbeth am hynny yn y dyfodol yn ogystal. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud yn dilyn hyn a fydd yn helpu i gyflymu diddordeb yn y parth menter ym Mhort Talbot? Ac a allwch ddylanwadu mewn rhyw fodd a allai—sut y gallaf ei roi—sicrhau cymaint â phosibl o swyddi perthnasol y gellir dod â hwy i’r carchar newydd y byddwn yn ei drafod y prynhawn yma, os bydd yn dod i’r ardal mewn gwirionedd?
Ac yna roeddwn eisiau rhywfaint o sicrwydd fy hun mewn perthynas â’r ganolfan wyddoniaeth dur, oherwydd yn amlwg mae’r prosiect angori hwn yn ganolbwynt i fargen ddinesig bae Abertawe. Roedd yn seiliedig ar Tata ei hun, mewn gwirionedd—sylwadau roeddent wedi eu gwneud am gynhyrchion carbon bositif a deunydd adeiladu newydd. Rwy’n credu bod angen i ni wybod a oes gan ThyssenKrupp hefyd ddiddordeb yn y ffordd newydd ymlaen cyn y gallwn fod yn gwbl fodlon fod y ganolfan wyddoniaeth yn gynaliadwy.
Diolch i Suzy Davies am ei chwestiynau ac rwy’n ei sicrhau mai swyddi cynhyrchu dur yw ein blaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer Port Talbot, ond ar gyfer safleoedd eraill ledled Cymru. Byddaf yn ceisio cael sicrwydd penodol ynglŷn â swyddi o fewn yr adrannau caffael hefyd yn yr asedau yng Nghymru. O ran swyddi eraill y bu dyfalu yn eu cylch mewn mannau eraill, rwy’n credu bod yr undebau wedi dweud yn glir fod y mwyafrif helaeth o swyddi adnoddau dynol a swyddi TG yn bodoli y tu allan i’r DU ac felly ni fydd effaith unrhyw leihad yn hynny o beth yn creu goblygiadau mawr i safleoedd dur yng Nghymru, ond rwy’n ceisio cael sicrwydd, fel y dywedais, mewn perthynas â swyddi caffael yn benodol, a swyddi cynhyrchu dur yn yr un modd.
O ran ymchwil a datblygu, yn enwedig wrth i ni newid i economi carbon isel, rwy’n hyderus fod y safleoedd yng Nghymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar gynlluniau a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth y DU, pe baent yn dod o fewn y fargen sector. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl y bydd y ganolfan arloesi dur, sy’n ffurfio rhan hanfodol o fargen ddinesig bae Abertawe, yn bwrw ymlaen â’r uchelgais wreiddiol heb ei newid, gan gyflawni, drwy ddull partneriaeth, ffurf newydd ar arloesedd, ymchwil a datblygu a all gynnal economi yn y dyfodol. Mae gennyf bob ffydd y bydd hynny’n parhau i fod yn rhan bwysig o’r fargen ddinesig ac y bydd yn mynd rhagddo i fod yn llwyddiant mawr. Yn wir, bydd y buddsoddiad yn cael ei ystyried gan y bwrdd buddsoddi yr wythnos hon. Cefais fy sicrhau hefyd gan Brif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK y bydd yn parhau i frwydro mor galed ag y gall dros fuddiannau Cymru o fewn y fenter ar y cyd. Mae hynny’n cynnwys buddiannau Cymru o ran swyddi ac o ran gwaith ymchwil a datblygu. Nododd y ffaith fod ymchwil a datblygu wedi ei ymgorffori’n gadarn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel un o’r prif resymau pam ei fod mewn sefyllfa mor gryf.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr ail gwestiwn—Bethan Jenkins.