<p>Hawliau Llywodraethau Is-wladwriaethol</p>

3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:37, 20 Medi 2017

Yn sgil digwyddiadau yng Nghatalonia, pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU fel rhan o drafodaethau Brexit yr UE a’r DU, ynghylch hawliau llywodraethau is-wladwriaethol i weithredu’n annibynnol heb fod llywodraeth y wladwriaeth yn cyfyngu arnynt? (TAQ0042)

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Llywydd, sefydlwyd y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau’r UE i fod yn fforwm i Lywodraethau datganoledig geisio dylanwadu ar drafodaethau Brexit yr UE a’r DU. Rwy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y Cydbwyllgor Gweinidogion hwnnw. Nid yw’r digwyddiadau yng Nghatalonia, y cyfeirir atynt yn y cwestiwn hwn, wedi cael eu trafod mewn cyfarfod o’r pwyllgor.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:38, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Yn ganolog i’r cwestiwn hwn, wrth gwrs, mae hawl sylfaenol cenhedloedd i hunanbenderfyniad, a ymgorfforir, yn wir, yn siarter y Cenhedloedd Unedig, ac wrth i’r platiau tectonig symud o’n cwmpas ar yr ynysoedd hyn, ar dir mawr Ewrop, ac ar draws y byd, mae’n wynebu bygythiad cynyddol yn sgil rhyw fath o gipio pŵer iredentaidd ar ran y wladwriaeth ganolog, wrth iddynt hwy eu hunain deimlo bod eu goruchafiaeth yn cael ei herio. Rwyf wedi clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at yr agweddau bron yn neo-drefedigaethol a glywch yn y cyd-bwyllgor gweinidogion pan fo Brexit yn cael ei drafod. Mae’r cwestiwn hwn, wrth gwrs, fel y mae’n sôn, wedi cael ei ysbrydoli gan y digwyddiadau ofnadwy a welwn yng Nghatalonia, a bydd yn ofid i’r Aelodau glywed fod y Guardia Civil, heddlu gwladwriaeth Sbaen, wedi ysbeilio’r Generalitat, pencadlys Llywodraeth Catalonia, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf. Mae Arlywydd Catalonia wedi datgan bod y wladwriaeth Sbaeneg wedi atal ymreolaeth Gatalanaidd i bob pwrpas bellach.

A gaf fi annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud, sef anfon neges o gefnogaeth i bobl Catalonia a Llywodraeth Catalonia, wrth iddynt sefyll yno yn awr o flaen y Generalitat, yn datgan, ‘No tinc por’?

We are not afraid.

Nid oes arnom ofn. Gadewch inni ddweud gyda hwy nad ydym ni’n ofni chwaith. Rydym yn sefyll gyda hwy, a chyda phobl Kurdistan sydd hefyd yn cael eu bygwth gan refferendwm a gaiff ei atal gan Lywodraeth gwladwriaeth Irac ddydd Llun. Rydym yn sefyll yn unedig gyda holl bobloedd y byd sy’n gofyn am hyn yn unig: yr hawl i ddewis eu dyfodol eu hunain.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:39, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae’r Aelod yn rhoi ei farn ar y sefyllfa yn angerddol iawn, fel y mae ganddo hawl i’w wneud yn sicr, ac mae wedi tynnu ein sylw at yr adroddiadau ar y sefyllfa sy’n datblygu yng Nghatalonia. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl glir: rydym yn credu mewn egwyddorion democrataidd ac yn credu y dylent gael eu parchu. Gwleidyddiaeth ddemocrataidd yw’r sail ar gyfer datrys materion cyfansoddiadol. Yr hyn nad wyf yn gallu ei wneud yw gweithredu fel pe bai gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am y modd y cynhelir y berthynas â gwladwriaethau eraill yn Ewrop neu’n wir, â gwladwriaethau mewn mannau eraill yn y byd. Nid yw hwnnw’n gyfrifoldeb a ddatganolwyd i ni ac ni ddylem roi ein hunain mewn sefyllfa sy’n ymddangos fel pe baem yn credu mai felly y bo.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:40, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gwefan gwasanaeth gweithredu allanol yr Undeb Ewropeaidd ei hun yn datgan bod yr UE yn credu mai democratiaeth yw’r unig system wleidyddol a all wireddu’r holl hawliau dynol yn llawn. Oni fyddai’n ymarfer defnyddiol i Lywodraeth Cymru annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atgoffa Sbaen, fel aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai fyw yn ôl yr egwyddorion y dywedodd gwasanaeth gweithredu allanol yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael eu hymgorffori yn y cytuniadau sefydlu, wedi eu hatgyfnerthu gan y siarter hawliau sylfaenol, ac sy’n cael eu datgan yn llawn o ganlyniad i’r ffaith fod cytuniad Lisbon yn ymgorffori’r siarter honno yng nghyfraith Ewrop? Mae Llywodraeth, fel Llywodraeth Sbaen, sy’n ofni pleidleisiau ei phobl ei hun yn y blwch pleidleisio yn sefydliad simsan yn wir, a dylai’r Cynulliad hwn, o bob sefydliad, sefyll dros hawliau pobloedd bychain neu genhedloedd bychain i hunanbenderfyniad, os mai dyna yw eu dymuniad. Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu yn y Deyrnas Unedig, ond pe bai pobl Cymru yn pleidleisio am annibyniaeth wleidyddol, mae honno’n hawl y dylid ei disgwyl ac nid yw Catalonia yn haeddu dim llai na hynny.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:42, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn tynnu sylw’n ddefnyddiol at y datganiadau sy’n bodoli o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mewn mannau eraill, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu’n gyfan gwbl yn yr hyn a ddywedais sef ein bod, fel Llywodraeth Cymru, yn credu mewn parchu egwyddorion democrataidd a gwleidyddiaeth ddemocrataidd fel y ffordd i ddatrys anghydfodau cyfansoddiadol ac anghydfodau eraill. Ond mae’r Aelod hefyd yn iawn i ddweud mai cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yw’r rhain. Bydd y Llywodraeth honno’n clywed beth fydd gan bleidiau eraill a gwleidyddion etholedig eraill i’w ddweud ac mae’n iawn fod pobl yn defnyddio’r fforwm hwn i wneud y safbwyntiau hynny’n hysbys. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barchu’r cyfrifoldebau sydd wedi cael eu datganoli i ni a dyna beth rwy’n bwriadu ei wneud.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy’n siomedig iawn i glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn fod ganddo ymdeimlad o hanes ac rwy’n amau nad yw’n gwbl gyfforddus â’r hyn y mae’n ei ddweud wrthym, o ystyried y berthynas rhwng Cymru a Chatalonia a’r berthynas ehangach rhwng pobl flaengar Cymru a Chatalonia, sy’n mynd yn ôl dros 75 o flynyddoedd. Yr unig beth y gofynnwn amdano gan Lywodraeth Cymru yw’r hyn y mae Clwb Pêl-droed Barcelona wedi’i ddatgan eu hunain:

democratiaeth, rhyddid i lefaru, ac i hunanbenderfyniad, ac i gondemnio unrhyw weithred a allai rwystro’r rhyddid i arfer yr hawliau hyn.

Os gall clwb pêl-droed ym mhrifddinas Catalonia ddweud hynny, yna credaf y gall Llywodraeth Cymru ei ddweud—sefyll mewn undod, dyna i gyd, gyda Llywodraeth ddatganoledig debyg sydd ar hyn o bryd yn gweld ei swyddfeydd yn cael eu hysbeilio, ei haelodau’n cael eu poenydio a’i Senedd yn cael ei herio gan wladwriaeth Sbaenaidd ganolog. Gwn fy mod wedi cael cefnogaeth llawer o’r Aelodau yma i anfon llythyr agored at Lywydd Senedd Catalonia. Rwy’n bwriadu anfon hwnnw heno. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn manteisio ar y cyfle, o’r diwedd, i gefnogi hwnnw gan fy mod yn credu y dylem, o leiaf, sefyll fel Senedd, ochr yn ochr â Seneddau eraill, i ddweud yn syml fod gennych hawl i ofyn i’ch pobl beth ddylai eu dyfodol fod.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:44, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â’r Aelod ynglŷn â’r hanes hir o berthynas agos rhwng Cymru a Chatalonia a rhwng sefydliadau sy’n gweithredu yma yng Nghymru ac sy’n gweithredu yng Nghatalonia. Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Gatalonia yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ni ddylai unrhyw beth a ddywedais y prynhawn yma ymddangos fel pe bai’n tynnu oddi wrth ein pryder ynglŷn â’r adroddiadau a ddaw o Gatalonia na’n cefnogaeth i ddatrys anghydfodau drwy ddulliau democrataidd, gwleidyddol priodol. Ac mae’n anghyfforddus. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud ei bod yn sefyllfa anghyfforddus weithiau, ond y safbwynt rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi ei amddiffyn a gwyro oddi wrtho ryw fymryn—. Dywedodd y gallai’r Senedd hon ddatgan ei safbwynt. Mae hynny’n sicr yn bosibl, ond gofynnir i mi ddatgan safbwynt y Llywodraeth, ac rwy’n aelod o Lywodraeth lle rydym, gyda’n cymheiriaid yn yr Alban, yn rhan o anghydfod dwfn iawn gyda Llywodraeth y DU lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio tresmasu ar gyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli i’r sefydliad hwn. Ac os oes yna egwyddor ynglŷn â phobl yn parchu lle y gorwedd cyfrifoldebau, nid wyf am groesi’r llinell lle rwy’n rhoi fy hun mewn sefyllfa lle mae’n ymddangos fy mod yn dweud pethau fel pe bai gennyf gyfrifoldebau, neu fod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau, dros y modd y cynhelir perthynas â gwladwriaethau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, pan fo’n amlwg nad oes gennym gyfrifoldebau o’r fath.