Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 26 Medi 2017.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y rhwymedigaethau sydd gan awdurdodau lleol i gynnal priffyrdd diogel a chyflwyno mesurau gostegu traffig? Mae trigolion ardal Heol Pant Ddu yng Nghrymlyn yn gweithio'n galed, ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, i sicrhau gostegu traffig yn eu hardal nhw. Mae maint y traffig wedi dyblu ac mae'r cyflymder cyfartalog bellach yn uwch na'r trothwyon sydd, yr wyf ar ddeall, yn angenrheiddiol ar gyfer gosod mesurau gostegu traffig. Ond mae’r awdurdod lleol wedi ensynio bod yn rhaid i ddigwyddiadau anaf personol neu waeth ddigwydd cyn i'r meini prawf gael eu bodloni. Felly, a gawn ni eglurhad ynghylch beth yw’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol o ran penderfynu ar sut y gall ardal gyrraedd meini prawf ar gyfer mesurau gostegu traffig cyn i rywun gael ei anafu neu waeth na hynny?