Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 26 Medi 2017.
Mae'n bleser bob amser gwrando ar Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n ofni na allaf fod mor ganmoliaethus am gynnwys y datganiad ei hun. Rwyf am gyflwyno amrywiaeth benodol i'r trafodion y prynhawn yma, fel y gellid ei ddisgwyl. Rwyf am gwestiynu'r rhagdybiaethau y gwneir y datganiad arno. Mae gen i dri phwynt i'w gwneud i gyd.
Yn gyntaf oll , mae'r datganiad yn dweud bod cytundeb Paris yn ennill momentwm ac mae ymrwymiad clir i ddatgarboneiddio economïau a systemau ynni ar draws y byd. Ond rwy'n ofni bod yr holl dystiolaeth yn groes i hynny. Mae Tsieina ac India rhyngddynt yn allyrru mwy na thraean o garbon deuocsid y byd. Mae Tsieina yn bwriadu dyblu ei allbwn o garbon deuocsid yn ystod y 15 mlynedd nesaf, ac mae India'n ei dreblu. Dyna un rheswm pam mae Arlywydd Trump yr Unol Daleithiau, sydd hefyd yn allyrru 15 y cant o garbon deuocsid y byd, eisiau cilio o gytundeb Paris yn gyfan gwbl, oherwydd ei fod yn dweud ei fod wedi cael ei ethol i gynrychioli dinasyddion Pittsburgh, nid Paris. A’r hyn sy'n ei gymell yw bod cymal ymwared yng nghytundeb Paris ei hun, erthygl 4 (7), sy'n dweud:
Bydd y graddau y bydd Partïon gwledydd sy'n datblygu yn gweithredu eu hymrwymiadau'n effeithiol o dan y Confensiwn ... yn cymryd i ystyriaeth lawn mai datblygu economaidd a chymdeithasol a dileu tlodi yw blaenoriaethau cyntaf a phwysicaf Partïon y gwledydd sy'n datblygu.
Dyna pam, er bod Tsieina ac India wedi cytuno mewn egwyddor i'r damcaniaethau sylfaenol y tu ôl i'r confensiwn newid hinsawdd, nad ydynt mewn gwirionedd yn mynd i gyfrannu unrhyw beth mewn termau ymarferol i'w wireddu. Hyd yn oed yn yr Almaen, sydd wedi cytuno’n llwyr i bolisïau gwrth gynhesu byd-eang, mae allyriadau carbon deuocsid wedi codi ym mhob un o'r wyth mlynedd diwethaf, gan gynnwys y flwyddyn bresennol. Felly, rwy'n ofni nad yw'r byd yn mynd i'r cyfeiriad y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tybio.
Yn ail, mae rhagdybiaeth yma bod yr achos economaidd dros ynni adnewyddadwy yn parhau i gryfhau a bod costau is i ynni adnewyddadwy, fel y cadarnhawyd gan yr arwerthiant contractau gwahaniaeth diweddar. Wel, rwy'n ofni nad oes modd rhagdybied hynny o'r prisiau hyn, ac rwy’n cymeradwyo i Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad hwn gan yr Athro Gordon Hughes, athro economeg ym Mhrifysgol Caeredin, sy'n dadansoddi hyn yn ei gyhoeddiad, 'Offshore Wind Strike Prices: Behind the headlines '. Ei bwynt sylfaenol yma yw bod y rhain yn gontractau cymhleth, ond yn ddewisiadau sylfaenol. Nid ydynt o reidrwydd yn mynd i gael eu gwireddu, y prosiectau hyn, ar y prisiau a ddyfarnwyd. Ac, ar £74.75 ar gyfer contract Triton Knoll, a £57 ar gyfer contractau Hornsea Two a Moray East, y tri sydd wedi bod yn y penawdau yn y papurau newydd yn ddiweddar—byddai hynny'n cynrychioli, pe byddai'n cyfateb, i ostyngiad mewn costau gweithredu a chostau adeiladu o 55 y cant ar gyfer gwynt ar y môr yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Nid yw hynny'n gredadwy. Er bod datblygiadau wedi bod mewn technoleg tyrbin, nid oes modd i gostau adeiladu a datblygu mewn dyfroedd alltraeth fod wedi gostwng 55 y cant yn y cyfnod hwnnw. Mewn gwirionedd, i ryw raddau, oherwydd ein bod yn gorfod mynd i mewn ymhellach ar y môr i adeiladu'r ffermydd gwynt hyn, yna bydd costau'n debygol o gynyddu, neu o leiaf bydd y costau ychwanegol o fynd i ddyfroedd dyfnach yn gorbwyso costau technoleg.
Felly, yr hyn yr ydym yn ei weld yma yw ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd 20 mlynedd yn ôl mewn cysylltiad â'r rhwymedigaeth tanwydd ffosil, oherwydd dyfarnwyd 247 o gontractau fferm wynt, ond dim ond 57 a adeiladwyd mewn gwirionedd—chweched rhan o'r capasiti a fwriadwyd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod y contractau cynnar oedd â phrisiau uchel wedi cael eu hadeiladu ac ni chafodd y contractau diweddarach â phrisiau isel eu hadeiladu, a dyna'n union beth yr ydym yn ei weld yma. Felly, mae hyn i gyd yn rhan o bolisi'r Llywodraeth—Llywodraeth y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru—o daro'r tlawd. Nid ydym yn cynhyrchu dim byd yn nhermau byd-eang carbon deuocsid—Cymru, yn ôl pob tebyg, 0.1 y cant o allyriadau byd-eang. Ni yw'r ardal dlotaf o'r Deyrnas Unedig, gyda chwarter ein cartrefi mewn tlodi tanwydd, ac eto mae biliau cartrefi pobl gyffredin yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn—£115 y flwyddyn ar hyn o bryd mewn ardollau gwyrdd ar fil trydan ar gyfartaledd. Bydd hyn yn codi, erbyn 2020, i £170, ac, erbyn 2030, i £245 y flwyddyn mewn punnoedd cyson. Rwy'n credu bod hwn yn bolisi ofnadwy i osod costau mwy a mwy ar y rheini sydd leiaf abl i’w gwrthsefyll.