2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac rwy’n teimlo fy mod o dan bwysau yn awr, gyda’n hymwelwyr nodedig yn yr oriel.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae’n bwriadu asesu gweithrediad y cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51064)
Wel, Dirprwy Lywydd, bydd y broses o weithredu’r cod yn cael ei monitro drwy adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus. Rwyf hefyd yn disgwyl i’n partneriaid cymdeithasol yng nghyngor partneriaeth y gweithlu ystyried yr adroddiadau hynny.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ac a gaf fi ddweud, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion—a gwn fod cyd-aelodau o’r pwyllgor yma—fy mod yn croesawu’r cyhoeddiad gan Gadeirydd Prifysgol Cymru, yr Athro Colin Riordan, pan ddywedodd y byddai’n rhaid i holl brifysgolion Cymru, erbyn diwedd mis Gorffennaf 2017, gytuno i god ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi? Ac aeth yn ei flaen i ddweud—a dyma’r gweithrediad ymarferol—fod aelodau Prifysgolion Cymru wedi ymrwymo i dalu cyflog byw’r Living Wage Foundation i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol mewn addysg uwch erbyn 2018-19, ac i ddechrau’r broses o roi’r cyflog byw ar waith mewn perthynas â gweithgarwch allanol o fewn addysg uwch. A yw’n cytuno â mi y dylai pob un ohonom, fel Aelodau’r Cynulliad o bob plaid, ymfalchïo yn y rhan hon o’r difidend datganoli, pan fo’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gallu cyflymu newid blaengar mewn cyflogaeth?
Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am hynny? Rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod y cod yn enghraifft o sut rydym wedi gallu defnyddio’r pwerau sydd ar gael inni er mwyn torri tir newydd, a sicrhau bod cyflogaeth foesegol yn ganolog i’r ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nawr, dim ond ym mis Mawrth eleni y cymeradwywyd y cod yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, felly roedd yn braf gweld Addysg Uwch Cymru yn mynd ati’n gynnar iawn i ymrwymo i gytuno i’r cod a’i ganlyniadau. Ers hynny, gwyddom y bydd yr holl heddluoedd yng Nghymru yn cytuno i’r cod. Mae gennym awdurdodau lleol yng Nghymru yn cytuno iddo, cymdeithasau tai, mae 20 o sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector eisoes wedi cytuno iddo, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cytuno i’r cod. Ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld y cod yn cael ei roi ar waith ar raddfa ehangach, gan wneud y gwaith rydym angen iddo ei wneud, ac i allu adrodd wedyn ar ei effaith mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dros y misoedd i ddod.
Mae’r cod ymarfer, wrth gwrs, yn nodi camau gweithredu i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae talu llai na’r cyflog byw yn arfer cyflogaeth annheg, a gŵyr pob un ohonom am honiadau a wnaed yn y sector gofal a’r sector lletygarwch, gan fod modd i wasanaethau cyhoeddus gaffael gwasanaethau yn y sectorau hynny wrth gwrs. A yw’n bosibl y gallai’r mecanweithiau a grybwyllwyd gennych ychydig yn gynharach fethu nodi’r achosion hynny pan fo cyflogwyr yn dweud eu bod yn talu’r cyflog byw, ond efallai nad ydynt yn gwneud hynny mewn gwirionedd?
Wel, mae’n bwysig iawn—rwy’n cytuno â Suzy Davies—ein bod yn effro i achosion lle y mae cyflogwyr yn ceisio tanseilio’r isafswm cyflog. Gwyddom fod enghreifftiau, yn anffodus, yng Nghymru lle y mae pobl, er enghraifft, drwy lety ynghlwm wrth waith neu gludiant ynghlwm wrth waith, yn cael eu talu islaw’r isafswm statudol i bob pwrpas. Nawr, rydym yn dibynnu ar ein cydweithwyr yn yr undebau llafur i fod yn rhan o’r rhwydwaith sy’n tynnu ein sylw at achosion o’r fath pan fyddant yn codi.
Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd gennym fel Llywodraeth rai wythnosau yn ôl ar degwch o ran symudiad pobl yn nodi cyfres o gamau y credwn fod angen i Lywodraeth y DU eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr hawliau sydd gan bobl yn y rhan honno o farchnad lafur yn cael eu diogelu’n briodol, yn ogystal â’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod gennym fecanweithiau cadarn ar waith i nodi achosion pan nad yw hawliau pobl yn cael eu parchu, a mynd i’r afael â’r achosion hynny wedyn.