Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch, ac rwy’n sylweddoli mai i’r Ysgrifennydd iechyd rwyf wedi bod yn gofyn am addysg feddygol yn y gogledd hyd yma, ond mae’n braf cael cyfle i ofyn y cwestiwn i chi fel Ysgrifennydd addysg heddiw. Rŵan bod cytundeb cyn-gyllideb wedi sicrhau arian datblygu ar gyfer addysg feddygol is-raddedig ym Mangor, a wnewch chi fel Ysgrifennydd addysg ddweud wrthym ni pa fath o rhaglen waith fyddech chi’n dymuno ei gweld yn cael ei rhoi mewn lle i ddechrau adeiladu at gyflwyno cwrs is-raddedig llawn ym Mangor ar gyfer myfyrwyr meddygol wedi’i angori ym Mhrifysgol Bangor, a hynny mewn partneriaeth efo ysgol neu ysgolion meddygol eraill, yn ogystal â’r cam all ddigwydd yn syth o sicrhau rhagor o leoliadau i fyfyrwyr yn y gogledd?