Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 4 Hydref 2017.
Fel chi, Rhun, rwy’n falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid o £7 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i gefnogi ein cynlluniau ar gyfer datblygu addysg feddygol israddedig yng ngogledd Cymru. Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad yn yr hydref, a dyna yw’r bwriad o hyd, ond a gaf fi ddweud wrthych fod swyddogion yn gweithio gyda’r tri sefydliad i fwrw ymlaen â’r cynnig ac i nodi’r camau ymarferol sy’n angenrheidiol er mwyn ei roi ar waith. Y tro diwethaf i’r swyddogion gyfarfod â phrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, ynghyd â’r ddeoniaeth, oedd ar 21 Medi.