Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 4 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y darganfuom yn y pwyllgor iechyd, mae pobl ifanc yng Nghymru sy’n astudio meddygaeth yng Nghymru yn fwy tebygol o aros yng Nghymru, a dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwella cyfleoedd addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Nid yn unig fod prinder meddygon a nyrsys yng Nghymru, ond mae radiolegwyr yn brin iawn hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa mewn diagnosteg feddygol, a beth a wnewch i gynyddu nifer y lleoedd a chyfleoedd hyfforddi ym maes radioleg?