<p>Addysg Feddygol yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:34, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt dilys iawn, ac ers fy amser ar y pwyllgor iechyd, a fwynheais yn fawr, mae materion sy’n ymwneud â diagnosteg feddygol yn hanfodol, wrth gwrs, os ydym am fynd i’r afael â phroblemau gydag amseroedd aros ar gyfer y profion hynny. Rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i weithio’n agos ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn cefnogi addysg feddygol a phroffesiynau sy’n gysylltiedig â meddygaeth, ac rydym yn buddsoddi dros £350 miliwn bob blwyddyn, gan gynorthwyo mwy na 15,000 o fyfyrwyr a hyfforddeion gyda’u haddysg a’u hyfforddiant mewn ystod o broffesiynau gofal iechyd ledled Cymru, gan gynnwys, fel y dywedais, meddygon a phroffesiynau eraill.