<p>Un Filiwn o Siaradwyr Cymraeg</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:08, 4 Hydref 2017

Yn ôl adolygiad Aled Roberts o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gwblhawyd ar ran y Llywodraeth—mae Aled Roberts yn dweud bod y cynlluniau yn dangos bod angen gwneud llawer iawn mwy os ydym am adlewyrchu’r dyheadau yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2010 heb sôn am ofynion mwy uchelgeisiol strategaeth newydd y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’ ac mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol yn awyddus i gyfrannu at ddyheadau’r Llywodraeth o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr. O edrych ar eich strategaeth iaith chi, Cymraeg 2050, nid oes yna dargedau a meini prawf cenedlaethol a dim targedau a meini prawf ar gyfer pob awdurdod lleol er mwyn nodi sut fydd pob awdurdod yn cyfrannu at gyrraedd y nod uchelgeisiol yma. Rydych chi’n sôn eich bod chi’n gwneud datganiad yr wythnos nesaf ynglŷn â’r WESPs. A fyddwch chi, yn eich ymateb i adroddiad Aled Roberts, yn cyflwyno’r targedau a’r meini prawf angenrheidiol yma ar gyfer y Llywodraeth ac ar gyfer awdurdodau lleol?