<p>Un Filiwn o Siaradwyr Cymraeg</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:09, 4 Hydref 2017

Mi fuaswn i’n awgrymu, yn garedig iawn, fod yr Aelod yn darllen eto’r strategaeth y bu imi ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf. Ac os byddech chi’n darllen y rhaglen waith a gafodd ei chyhoeddi ar yr un pryd, mi fuasech chi’n gweld bod meini yn hynny sy’n dangos ein bod yn cynllunio ar gyfer cynyddiad yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a faint o athrawon fydd eu hangen i gyrraedd y targedau felly, ac mae’r targedau yno ar gyfer diwedd y Cynulliad yma ac ar gyfer y blynyddoedd wedi hynny. Felly, mae yna rywfaint o dargedau yn y fanna, yn y rhaglen gwaith ac yn y strategaeth ei hun.

Pan mae’n dod i gyhoeddi’r cynlluniau strategol, wrth gwrs, mater i’r awdurdodau lleol ydy hynny. Nid yw’n fater i’r Llywodraeth yma i wneud hynny. Mae’n fater i bob awdurdod ei hun i wneud hynny, ac rydw i wedi ysgrifennu at bob un o’r awdurdodau lleol yn ystod yr haf ac rydw i’n disgwyl i’r awdurdodau gyhoeddi eu cynlluniau, fe fuaswn i’n gobeithio, cyn diwedd y flwyddyn.