<p>Disgyblion sy’n Wynebu neu’n Profi Digartrefedd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:11, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n debyg y byddwch yn ymwybodol fod oddeutu 3.33 y cant o aelwydydd a ystyrid yn ddigartref mewn perthynas â’n grwpiau blaenoriaeth yn 2016-17 yn bobl ifanc 16 a 17 oed, ac wrth gwrs, gwyddom fod yr oedran hwnnw’n amser anodd iawn oherwydd bod ganddynt arholiadau, yn aml iawn, yn ystod y cyfnod hwnnw. A gaf fi ofyn a ydych wedi ystyried darparu canllawiau i awdurdodau addysg lleol, ac yn wir, i ysgolion ynglŷn â sut i gefnogi pobl mewn sefyllfaoedd o’r fath, oherwydd mae’n amlwg fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ar ben yr hyn a ddarperir yn gyffredinol i ddisgyblion yn eu dosbarthiadau, ar yr oedran penodol hwnnw? Felly, tybed a ydych wedi ystyried cyhoeddi canllawiau statudol ar y mater hwn.