<p>Disgyblion sy’n Wynebu neu’n Profi Digartrefedd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:12, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, Darren, diben sefydlu’r ganolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yw helpu ysgolion i gefnogi plant sy’n dioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae digartrefedd yn brofiad niweidiol arwyddocaol iawn yn ystod plentyndod. Fe ddywedaf wrthych beth, Darren, efallai y gallwn daro bargen. Efallai y gallwn ystyried cyhoeddi canllawiau statudol pan fydd eich Llywodraeth yn San Steffan yn rhoi’r gorau i arddel y fath bolisi tai didostur mewn perthynas â phobl ifanc 16 a 17 oed, sy’n eu gorfodi’n aml i sefyllfaoedd peryglus, gan nad ystyrir bod ganddynt yr un hawliau â phobl hŷn o ran digartrefedd a budd-daliadau, a gwnewch chi rywbeth i atal y credyd cynhwysol.